 Gwybodaeth i Ymwelwyr
Dyma'r lle i ddarganfod popeth am y cyfleusterau sydd ar gael yn y Sw Fynydd Gymreig!
Mae'r Sw Fynydd Gymreig 3 munud yn unig mewn car o draffordd A55 – dewch allan yng Nghyffordd 20 yng Nghyfnewidfa Llandrillo-yn-Rhos.
Arddangosfa Hedfan Anhygoel: Arddangosiadau hedfan newydd a gwell. Gwelwch ryfeddod ac amrywiaeth ein casgliad ardderchog o adar: o'r macaw mawr llachar hyd at sgiliau hela'r dylluan a'r hebog yn ein harddangosiadau hedfan sy'n cael eu cynnal ddwywaith y dydd. Hafan y Condor yw cartref newydd ysblennydd Condor yr Andes .
|
|
| |
Cyflwyniad Tsimpansī: Mae hwn yn newydd! Bydd ein cyflwynydd byw yn cyflwyno aelodau o deulu'r Tsimpansī i ymwelwyr y Sw. Mae'r cyflwyniad unigryw hwn yn caniatįu i ymwelwyr gyfarfod tsimpansļaid a dysgu am eu bywyd yn y gwyllt drwy gyflwyniad clyweledol.
Craig y Morloi Clustiog! : Yn y pwll ardderchog hwn a'r arena weithgareddau cynhelir un o'r arddangosiadau mwyaf cynhyrfus a chyfareddol a welwch byth. Gwyliwch forloi clustiog Califfornia yn deifio ac yn ymdrochi, yn nofio ac yn chwarae ac yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud orau dangos eu hunain!
Amser Chwarae'r Pengwiniaid: Pengwiniaid gwallgof - ar eu gorau! Gwyliwch hwy'n cerdded ac yn wadlo ac yn gwibio drwy'r dŵr. |
|