Mannau Cyhoeddus - Cyffredinol
· Gan fod y Sw ar safle 37 acer ar ben bryn amcangyfrifir bod 30% o'r arddangosion lleiaf yn ogystal â rhan sylweddol o'r coetiroedd annatblygedig yn anhygyrch i ymwelwyr sy'n cael trafferth i symud oherwydd grisiau, llwybrau ar elltydd ac arwynebau graean.
·Yn y fynedfa gellir cael map am ddim sy'n nodi'r llwybrau mwyaf addas i gadeiriau olwyn, gan osgoi grisiau ond nid llethrau.
· Nid yw'r arweinlyfr ar gael ar hyn o bryd mewn fformatau eraill megis ar dâp.
· Nid oes tâl mynediad i ymwelwyr sy'n gaeth i gadair olwyn neu sy'n ddall.
· Mae'n bosibl llogi cadeiriau olwyn a phramiau ysgafn yn ddi-dâl.
· Mae staff bob amser wrth law i gynnig cymorth pan fo angen ac maent yn gwisgo crysau chwys glas tywyll, gwyrdd neu f arŵn gyda logo'r Sw arnynt.
Mannau cyhoeddus – Toiledau
· Ceir toiledau ar gyfer yr anabl a thoiledau dynion a merched islaw Caffi Flagstaff a cheir set arall o doiledau dynion a merched y tu ôl i Siop Roddion y Caban Gwerthu. Ceir ystafell mam a'i phlentyn gerllaw'r Siop Roddion.
· Mae'r holl lwybrau sy'n arwain at y toiledau ar dir y Sw yn rhai concrid neu darmac heb risiau (ac eithrio'r toiledau ym Mwyty Safari lle ceir grisiau).
· Ni cheir cyfleusterau toiled y tu allan i ffiniau'r Sw.
· Mae digon o le ym Mwyty Safari. Mae Caffi Flagstaff yn fwy cyfyng gan fod yr adeilad yn llai.
· Dangosir bwydlenni a phrisiau yn eglur ar y wal wrth ichi fynd i mewn i Fwyty Safari a Chaffi Flagstaff a gallwch ofyn i'r staff eu darllen ichi. Ar hyn o bryd nid ydynt ar gael mewn Braille nac ar dâp. Rhaid dringo un gris wrth fynd i mewn i Fwyty Safari.
· Mae allt weddol serth yn arwain at Gaffi Flagstaff ond nid oes grisiau.
· Mae staff ar gael i gynorthwyo pan fo angen.
· Mae'r cadeiriau a'r byrddau yn rhai symudol. Mae gan rai golofn ganolog ac eraill â choes ym mhob cornel.
· Mae Bwyty Safari a Chaffi Flagstaff yn cynnig gwasanaeth cownter (gellir cynnig gwasanaeth bwrdd yn ôl y galw).
· Gallwn ddarparu bwyd llysieuol, bwyd heb glwten, heb gynnyrch llaeth, heb gnau a heb siwgr. Ffoniwch ni ymlaen llaw ar 01492 532938 i nodi eich anghenion
· Ceir llawer o safleoedd picnic o amgylch tir y Sw ar dir gwastad ac ar oleddf (meinciau a llecynnau glas).
Siop Roddion Y Caban Gwerthu
· Mynediad drwy un drws.
· Rhaid dringo un gris bychan wrth fynd i mewn i'r siop.
· Croesewir cŵn tywys yn y siop.
· Efallai na fydd rhai eitemau o fewn cyrraedd; gall y staff gynnig cymorth.
Arddangosiadau
Dangosir gwybodaeth am amseroedd y Cyflwyniad Tsimpansî a'r arddangosiadau adar a morloi clustiog ar gefn map y Sw ac yn Siop Roddion y Caban Gwerthu. Ceir mynediad i gadeiriau olwyn (yn y blaen a'r cefn) i'r Cyflwyniad Tsimpansî.
Y tir a'r gerddi
· Mae mannau gorffwys (meinciau) i'w cael yn gyson o amgylch y Sw.
· Mae amryw o safleoedd y gellir eu cyrraedd yn unig drwy ddringo neu ddod i lawr nifer o risiau.
· Mae rhai llwybrau a rhodfeydd wedi eu tarmacio ond llwybrau graean yw'r rhan fwyaf ohonynt.
· Nid oes modd cael eich cludo ar draws y safle.
· Rhwng llwybrau ceir llecynnau glas a gall y rhain fod yn anwastad dan draed.
Gwybodaeth Ychwanegol
· Mae'r holl staff sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd a'r staff sy'n ateb y prif ffôn wedi eu hyfforddi gyda golwg ar ymwybyddiaeth o anabledd a nodweddion y safle.
· Croesewir cŵn cymorth a chaniateir iddynt fynd i mewn i'r holl fannau cyhoeddus. Gweler y nodyn ‘rhybuddio ymlaen llaw' uchod .
· Mae gan y Sw gynllun gwirfoddolwyr. Os ceir rhybudd mewn da bryd efallai y bydd yn bosibl trefnu fod gwirfoddolwr yn tywys ymwelwyr dall neu rannol ddall.
Gwybodaeth Gysylltu
Ffôn: 01492 32938 Ffacs: 01492 530498 E-bost: info@welshmountainzoo.org Gwefan: www.welshmountainzoo.org Cyfeiriad: Y Sw Fynydd Gymreig, Yr Hen Briffordd, Bae Colwyn LL28 5UY Amseroedd agor: 9:30am – 5pm (Mis Mawrth – Mis Hydref), 9:30am – 4pm (Mis Tachwedd – Mis Chwefror) |