Welsh Mountain Zoo

Gibbon

Anifeiliaid

Pwrpas y tudalennau hyn yw rhoi mwy o wybodaeth ichi am rai o'r anifeiliaid sydd gennym ni yma yn y Sw Fynydd Gymreig.

Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r wybodaeth yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn gwybod am bopeth ydym ni'n ei wneud yma a sut y mae ein hanifeiliaid yn dod yn eu blaenau.

Bydd 2008 yn flwyddyn gynhyrfus i'r Sw gan y byddwn yn cael ein Hadardy Affricanaidd newydd ger Rhaeadr yr Eirth a byddwn yn bwrw ymlaen â datblygiadau newydd pwysig gan gynnwys Tŷ Trofannol newydd i'n dau Aligator Mississippi, Albert a Nancy.

 
Marmoset

Mae gennym amrywiaeth eang o anifeiliaid rhyfeddol, ac mae ein casgliad yn cynyddu ac yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn, felly dowch i weld ein hanifeiliaid: Llewpardiaid yr Eira, Eirth Brown, Teigrod Swmatra, Pandas Cochion, Camelod, Pengwiniaid, Ceffylau Gwylltion, Llwynogod yr Arctig, Aligatoriaid a Morloi Clustiog. Mae cymaint i'w wneud a chymaint o ffeithiau diddorol i'w dysgu. Felly, galwch draw i ymweld â'n cyfeillion o bedwar ban byd ...