{BUSINESSNAME}

NEWYDD – Nawr gallwch fabwysiadu eich hoff anifail drwy ein proses archebu ar-lein.
Cliciwch Yma

CROESO I'R SW FYNYDD GYMREIG

Mae'r Sw Fynydd Gymreig yng Ngogledd Cymru, gyda'i golygfeydd panoramig a syfrdanol, ar safle yn uchel uwchben Bae Colwyn. Mae'r sw gadwraeth ofalgar hon wedi ei lleoli mewn gerddi hardd. Gallwch grwydro'r llwybrau coediog, ymlacio ar y llethrau glas a threulio diwrnod bendigedig yn dysgu am lawer o rywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl, o Brydain ac o wledydd eraill o amgylch y byd, gan gynnwys Llewpard yr Eira, y Tsimpansî, y Panda Coch a Theigr Swmatra!

Mwynhewch Barêd y Pengwiniaid, Cyflwyniad y Tsimpansî, Rhaeadr yr Eirth, Hafan Newydd y Condor, Fferm y Plant a llawer mwy. Cofiwch ymweld â ‘Chraig y Morloi Clustiog' - sy'n newydd, a dod i wylio Morloi Clustiog Califfornia yn cael eu hyfforddi. Mwynhewch gyffro ac ehangder Byd Antur y Jyngl a Maes Chwarae Antur Troedffordd Tarzan. I'r rhai ohonoch sy'n ymddiddori mwy mewn technoleg, beth am ymweld â'n Canolfan Amlgyfrwng, lle gallwch fynd ar daith rithwir o amgylch y Sw a chwarae gemau addysgol ardderchog.

Peidiwch â cholli'r cyfle i weld y pethau sy'n gwneud ein Sw yn un mor UNIGRYW!

 
IMAGE2

NEWYDD! CIPER AM DDIWRNOD

Nawr mae'r Sw Fynydd Gymreig yn derbyn archebion ar gyfer ein cynllun newydd sbon – Ciper am Ddiwrnod. Mae'r diwrnod hwn ar gael i rai dros 16 oed ac mae'n digwydd o 10am-4pm bob dydd Mercher a dydd Sadwrn. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ewch i'n tudalen 'cefnogaeth' . ARCHEBWCH NAWR er mwyn osgoi cael eich siomi!