Welsh Mountain Zoo

Male Meerkat, Morgan
 
Meerkat amd porcupine enclosure

Ym mis Mehefin 07 cafodd 3 Tylluan Lwyd Fawr eu geni yma. Mae Graphite, Slate a Glacier yn dod yn eu blaenau'n dda ac yn hoff iawn o chwarae gyda'i gilydd.

Roedd mis Gorffennaf 07 yn fis ardderchog i Yoghi, yr Arth Frown Ewropeaidd, oherwydd daeth dwy chwaer 3 oed o Wlad Groeg i ymuno â hi, sef Athina a Fivi. Mae'r 3 Arth yn cyd-dynnu'n hynod o dda ac wrth eu boddau yn chwarae o dan y rhaeadr yn eu ffald newydd, 'Rhaeadr yr Eirth!'