 Pam ddylech chi Fabwysiadu?
Wnaethoch chi erioed feddwl faint o fwyd mae ein Teulu o Tsimpansïaid yn ei fwyta bob blwyddyn a faint o arian sy'n cael ei wario ar eu cadw'n gynnes ac yn gyfforddus?
Wel, dyma'r ateb!
32,850 banana, 2,190 peint o laeth, 14,600 o orennau, 10,950 o foron, 9,123 o datws wedi'u berwi, 17,520 o afalau, 1,095 torth (bara brown,) 6,570 o letys
ac nid dyna'r cwbl!!
Er mwyn ychwanegu amrywiaeth i'w diet, mae'r tsimpansïaid yn cael amrediad o fwydydd, sy'n cynnwys ffrwythau'r dioddefaint (passion fruit) a papaia, ymenyn pysgnau a phicls, Horlicks a Siocled Poeth!
Mae cost gyfartalog eu bwyd yn fwy na £15,000. Mae'r Sw hefyd yn gwario £3,500 ar wres a £2,000 ar wasarn i gadw'r tsimpansïaid yn glyd ac yn gynnes!
Ar y llaw arall, mae Peter y Peithon yn bwyta pryd o fwyd lai nag unwaith yr wythnos, ond yn ei achos ef a'r holl greaduriaid eraill sy'n byw yn Nhŷ'r Ymlusgiaid, rhaid cadw'r awyrgylch ar dymheredd cyfartalog o 80ºF, felly mae'r bil cynhesu blynyddol yn fwy na'r hyn a arbedwn ar gostau bwyd .
Mae cadw Sw yn fusnes drud ac nid yw maint yr anifail yn adlewyrchu'r gost o'i gynnal.
|