Welsh Mountain Zoo

Conservation

Cadwraeth

Mae llawer o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt dan fygythiad cynyddol. Mae llawer o rywogaethau mewn perygl, a hynny'n aml o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth ddynol. Mae Sŵau modern yn cynnig gwarchodfa i anifeiliaid y mae eu cynefin gwyllt wedi diflannu. Drwy'r byd i gyd, mae Sŵau a gerddi botanegol yn cyd-weithio i helpu i gynnal yr amrywiaeth aruthrol o rywogaethau ar ein planed. Mae sŵau yn bridio anifeiliaid sydd mewn perygl. Y ffordd orau o achub anifeiliaid yw yn eu hamgylchfyd eu hunain. Mewn llawer o achosion nid yw hyn yn bosibl, ac mae'n gwneud synnwyr sefydlu poblogaeth neilltuedig ymhell o beryglon y gwyllt.

Y Sw Fodern


Heddiw, mae'r Sŵau gorau a mwyaf blaengar fel arfer yn ystyried mai eu prif swyddogaethau yw cadwraeth, addysg, astudiaeth wyddonol ac adloniant.

Am nifer o flynyddoedd, mae athrawon ac addysgwyr wedi gwerthfawrogi potensial y Sw fodern fel ffordd o gyfleu rhyfeddod ac amrywiaeth y byd naturiol i'r to ifanc.

Bellach nid rhannu gwybodaeth yn unig yw gwaith sŵau, ond yn hytrach codi a chynyddu ymwybyddiaeth fel rhan o'r mudiad amgylcheddol ehangach.

Mae'r gwaith pwysig a wneir gan Sŵau yn seiliedig ar wahanol ddisgyblaethau gwyddonol megis maethiad, ymddygiad, geneteg, bioleg atgynhyrchu, ecoleg a milfeddygaeth.

Mae datblygiadau mewn hwsmonaeth a rheolaeth anifeiliaid wedi gwella lles anifeiliaid mewn Sŵau ac wedi ei gwneud yn bosibl i Sŵau ymateb i alwadau brys o'r gymuned gadwraeth.

Mae effaith ddinistriol gweithgareddau dynol ar gynefinoedd naturiol ac anifeiliaid gwylltion wedi bygwth goroesiad nifer o rywogaethau. Nawr mae sŵau yn chwarae rhan bwysig mewn cynnal amrywiaeth fiolegol y ddaear drwy gyfrwng rhaglenni bridio.

 
Polecat

Rhaglenni Bridio

Ers dechrau'r saithdegau, mae'r Sw Fynydd Gymreig, mewn ymateb i anghenion cadwraeth bywyd gwyllt, wedi bod yn ailasesu natur ei chasgliad o anifeiliaid. Mae hyn wedi galluogi'r Sw i gyfuno rhai o'r rhaglenni bridio cydweithredol rhwng- Sŵau sy'n datblygu ac sy'n ymwneud ag amrediad eang o rywogaethau mewn perygl.

Cymeradwyir llawer o'r rhaglenni gan Gomisiwn Goroesiad Rhywogaethau Undeb Cadwraeth y Byd.

Mae'r adnoddau ariannol ym Mae Colwyn yn gyfyngedig ac mae'r penderfyniad i ymuno â rhaglen fridio reoledig weithiau'n golygu na ellir bellach gadw rhywogaethau eraill llai sensitif o ran cadwraeth. Er enghraifft, er mwyn ymuno â rhaglen Llewpard Persia sydd mewn perygl, bu'n rhaid darganfod cartref newydd i'r isrywogaeth Affricanaidd gyffredin.

Rhywogaethau eraill a reolir yn gydweithredol yw:

- Ceffyl Gwyllt Przewalski
- Condor yr Andes
- Tsimpansî
- Gibon Lar
- Tamarin Penwyn
- Pengwin Humboldt
- Fflamingo Chile
- Morlo Clustiog Califfornia
- Hefyd, y rhywogaethau brodorol Prydeinig:
- Y Wiwer Goch
- Bele'r Coed

Dylid ystyried yr anifeiliaid a welir yn y Sw Fynydd Gymreig fel rhan yn unig o'r nifer llawer mwy o anifeiliaid mewn sŵau drwy'r byd. Maent yn rhan o bolisi yswiriant cadwraethol; yn barod, pe gwaethygai cyflwr poblogaethau anifeiliaid gwyllt gymaint, ar gyfer y posibilrwydd o weithredu rhaglenni ailgyflwyno.

Aelod o'r staff yw Gofalwr y Llyfr Achau cyfredol a Chydlynydd Rhywogaeth ar gyfer Rhaglen Fridio Ewropeaidd Condor yr Andes .

Mae Rhaglen Fridio Ynysoedd Prydain yn achos y Wiwer Goch hefyd yn cael ei chynnal o'r Sw Fynydd Gymreig.

Ni chyfyngwyd ymrwymiad y Sw Fynydd Gymreig i warchod rhywogaethau trwy fridio mewn caethiwed yn unig. Mae'r Sw yn gweithredu polisi o roi cymorth, lle bo hynny'n bosibl, i brosiectau sy'n ceisio achub cynefinoedd naturiol. Er enghraifft, mae Bae Colwyn wedi rhoi cymorth ariannol i brosiect Cronfa Natur Fyd-eang i warchod fforest law drofannol Gorllewin Affrica ym Mharc Cenedlaethol Fforest Tai, y Traeth Ifori

Porcupine

Ymholiad Gwyddonol

Nid yw'r adnoddau ariannol ar gael gan Gymdeithas Sŵolegol Cymru i gyflogi biolegwyr ymchwil. Fodd bynnag, gŵyr y Gymdeithas yn dda ei bod yn ddyletswydd arni i sicrhau fod yr anifeiliaid sy'n ei gofal o fewn cyrraedd y gymuned wyddonol , fel y gall y Sw wneud ei rhan yn y dasg o ehangu gwybodaeth dyn o'r byd naturiol.

Mae prosiectau ymchwil o'r fath a gynhelir yn y Sw Fynydd Gymreig gan wyddonwyr ar ymweliad yn rhai anymwthiol; nid ydynt yn ymyrryd â lles yr anifeiliaid nac yn aflonyddu ar raglenni bridio. Enghraifft dda fuasai prosiect yn ymwneud â sylwadaeth fanwl ar ymddygiad.

Gall myfyrwyr o nifer o Brifysgolion Prydeinig ddefnyddio'r cyfleusterau yn y Sw i gyflawni Prosiectau Anrhydedd, ac ymchwil ar gyfer graddau uwch. Mae'r Sw Fynydd Gymreig hefyd yn cynnig cymorth rheolaidd i brosiectau ymchwil mewn rhannau eraill o'r byd.

Seal

Canolfan Achub Morloi Gogledd Cymru

Ers i'r Sw agor ym 1962 mae amrywiaeth eang o rywogaethau o anifeiliaid brodorol sydd wedi cael eu hanafu ac sy'n amddifad wedi cael eu cludo yno i gael gofal ac i'w hailsefydlu yn eu cynefin. Yn ddiweddar mae'r rhan fwyaf o'r gofal hwn wedi canolbwyntio ar forloi llwyd ifanc ac ar brydiau morloi cyffredin.

Gwneir y gwaith hwn mewn cydweithrediad ag RSPCA, ac ym 1997 agorwyd Canolfan Achub Morloi Gogledd Cymru yn y sw. Mae gan y ganolfan ddau bwll â chyfleuster hidlo ac uned gofal dwys mewnol. Arweiniodd y datblygiad hwn, a gyllidwyd gan gyfeillion a chefnogwyr y Sw, at welliant yn y gofal a roddir, ac at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu trin, cyn iddynt gael eu rhyddhau'n ôl i'r môr.

Bird

Cofnodion Anifeiliaid

Un o'r elfennau pwysicaf yn achos rhaglenni bridio wedi eu cyd-drefnu yw cadw cofnodion. Yn y Sw Fynydd Gymreig cedwir cofnodion ar y System Gadw Cofnodion ar Anifeiliaid neu ARKS fel y gelwir hi, system gyfrifiadurol a ddyfeisiwyd yn Sw Minnesota , UDA.

Fel aelod o Ffederasiwn Gerddi Sŵolegol Prydain Fawr ac Iwerddon, anfonir yr holl gofnodion anifeiliaid i gronfa ddata ganolog yn Llundain. Mae'r Sw Fynydd Gymreig hefyd yn aelod o System Ryngwladol Gwybodaeth am Rywogaethau, sydd wedi ei lleoli yn Minnesota ac anfonir yr holl ddata perthnasol hefyd i'w cronfa ddata rhyngwladol.

These increasingly sophisticated systems of record keeping are proving to be vital to the success of nationally and internationally co-ordinated breeding programmes. More and more of these programmes are being instigated and guided by the Conservation Breeding Specialist Group of the World Conservation Union's Species Survival Commission.