 Tudalen y Ciperiaid
Mae gennym 12 o giperiaid yma yn y Sw Fynydd Gymreig ac maent yn rhoi pob gofal i'n holl anifeiliaid. Mae eu dyletswyddau yn cynnwys:
*Glanhau ffaldiau a chewyll
*Darparu gwasarn glân a dŵr ffres
*Paratoi bwyd a bwydo anifeiliaid
*Chwilio am arwyddion o anesmwythyd, afiechyd neu anafiadau mewn anifeiliaid
*Helpu i ofalu am anifeiliaid sy'n wael
*Sicrhau fod ein hanifeiliaid yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi
*Sicrhau fod ffaldau yn ddiogel ac yn addas i'r anifeiliaid dan sylw
*Sicrhau fod yr anifeiliaid mewn cyflwr da, yn gymdeithasol ac yn emosiynol
Unwaith y mis bydd ciper yma yn y Sw yn disgrifio'r hyn y mae wedi bod yn ei wneud gyda'i anifeiliaid, felly cadwch lygad ar agor.
|
|
| |
|
|