Dysgu Mae ein Rhaglen Addysg yn y Sw wedi cael ei hadolygu a'i diweddaru ar gyfer sesiwn 1998/1999. Ein hamcan yw darparu ar gyfer pob oedran a gallu, o oed meithrin hyd at CA4, myfyrwyr coleg hyd at bensiynwyr. Dylai'r amrediad eang sydd gennym o adnoddau addysgiadol fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg erbyn Mis Medi 1998. Gan mai Saesneg yw iaith ein Swyddog Addysg amser llawn, ni all roi'r sesiynau dysgu yn Gymraeg. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gall un o'n staff sy'n siarad Cymraeg gymryd y sesiwn. Byddwch cystal â ffonio'r adran addysg i ragdrefnu.
|
|
| |
|
|