 Craig y Morloi Clustiog
Nawr mae'r Sw Fynydd Gymreig yn gartref i ffald SPLASH-TASTIG Morloi Clustiog Califfornia. Mae pob un ohonynt yn mwynhau eu cartref newydd tra modern lle mae ganddynt ddigon o le i ddangos eu hunain yn perfformio eu triciau newydd!
Mae'r pwll newydd bendigedig a'r llain weithgareddau yn mesur 300 metr sgwâr ac yma cynhelir un o'n harddangosiadau mwyaf cynhyrfus a phoblogaidd. Mae Craig y Morloi Clustiog yn cynnwys hanner miliwn litr o ddŵr a cheir cyfleuster trawiadol i weld o dan y dŵr, lle gall ein holl ymwelwyr wylio'r morloi clustiog yn mwynhau eu pwll nofio mawr.
|
|
| |
 Mae'r cyfleuster newydd yn ei gwneud hi'n bosibl i ddŵr y pwll gael ei ailgylchu ac mae'n cynnwys rampiau arbennig i ymwelwyr anabl. Mae'r Morloi Clustiog Califfornia yn cynnwys Rooney, Cousteau, Maria, Phoebe a Spray ac mae pob un ohonynt wrth ei fodd yn deifio, ymdrochi, nofio a chwarae yng Nghraig y Morloi Clustiog!
|
|
 Gallwch wylio ein Morloi Clustiog yn ymuno mewn sesiynau ymarfer yn ddyddiol pan fyddant yn ymateb i'w ciper yn ystod chwaraeon yn y dŵr, archwilio esgyll a sgiliau pêl.
Agorwyd Craig y Morloi Clustiog ym mis Ebrill 2006 gan Rhodri Morgan AC, a roddodd lond bwced o bysgod yn fwyd i un Morlo Clustiog llwglyd 40 stôn. Dyma'i eiriau "Mae'n bleser mawr cael bod yma i gyhoeddi bod yr atyniad ardderchog hwn wedi agor". |
|