 Mae Clwb y Sw yn rhoi cyfle i blant sy'n aelodau o'r Sw i gyfarfod ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog ac addysgiadol. Mae Clwb y Sw yn cael ei drefnu o'r Ganolfan Addysg sydd ar safle'r Sw, a bydd yn cyfarfod ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn. Rhai o'r gweithgareddau diweddaraf oedd gofalu am ddraenogod ac astudio adar brodorol Prydain.
|
|
| |
|
|