Welsh Mountain Zoo

Chimpanzee

Pam ddylech chi Fabwysiadu?

Wnaethoch chi erioed feddwl faint o fwyd mae ein Teulu o Tsimpansïaid yn ei fwyta bob blwyddyn a faint o arian sy'n cael ei wario ar eu cadw'n gynnes ac yn gyfforddus?

Wel, dyma'r ateb!

32,850 banana, 2,190 peint o laeth,
14,600 o orennau, 10,950 o foron,
9,123 o datws wedi'u berwi, 17,520 o afalau,
1,095 torth (bara brown,) 6,570 o letys

ac nid dyna'r cwbl!!

Er mwyn ychwanegu amrywiaeth i'w diet, mae'r tsimpansïaid yn cael amrediad o fwydydd, sy'n cynnwys ffrwythau'r dioddefaint (passion fruit) a papaia, ymenyn pysgnau a phicls, Horlicks a Siocled Poeth!

Mae cost gyfartalog eu bwyd yn fwy na £15,000. Mae'r Sw hefyd yn gwario £3,500 ar wres a £2,000 ar wasarn i gadw'r tsimpansïaid yn glyd ac yn gynnes!

Ar y llaw arall, mae Peter y Peithon yn bwyta pryd o fwyd lai nag unwaith yr wythnos, ond yn ei achos ef a'r holl greaduriaid eraill sy'n byw yn Nhŷ'r Ymlusgiaid, rhaid cadw'r awyrgylch ar dymheredd cyfartalog o 80ºF, felly mae'r bil cynhesu blynyddol yn fwy na'r hyn a arbedwn ar gostau bwyd .

Mae cadw Sw yn fusnes drud ac nid yw maint yr anifail yn adlewyrchu'r gost o'i gynnal.

 
Camel

Sut y mae'r Cynllun yn Gweithio

Mae'r cynllun yn agored i bawb - unigolion, teuluoedd, ysgolion/clybiau, cymdeithasau, busnesau a chwmnïau. Mae'r holl gynlluniau mabwysiadu yn parhau am ddeuddeg mis a gellir cychwyn cynllun ar unrhyw adeg a bydd llythyr adnewyddu yn cael ei anfon ichi. Mae'r ffioedd mabwysiadu yn seiliedig ar gost berthynol bwydo a chartrefu anifail arbennig am flwyddyn. Gallwch fabwysiadu anifail yn gyfan gwbl, drwy dalu'r ffi fabwysiadu lawn, neu drwy fabwysiadu ar y cyd gydag eraill. Gellir mabwysiadu'r holl anifeiliaid yn rhannol drwy brynu un neu fwy o unedau sy'n costio £25 yr un. Mae prisiau mabwysiadu anifeiliaid yn llawn yn amrywio ac yn adlewyrchu costau byw yr anifail dan sylw. Mae'n bosibl Mabwysiadu pob un o anifeiliaid y Sw Fynydd Gymreig ac mae ar bob un ohonynt angen 'Rhieni Sw' .

Penguin

Beth fyddwch chi'n ei gael wrth Fabwysiadu

- Tystysgrif Mabwysiadu.
- Tocynnau Mynediad Di-dâl.
- Eich enw ar blac arbennig ar ffald yr anifail.
- Cyfle i gael sgwrs gyda chiper am yr anifail ydych chi wedi ei fabwysiadu os bydd hyn wedi ei drefnu ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Mabwysiadu.
- Ymwybyddiaeth eich bod yn chwarae rhan weithredol wrth gefnogi bywyd gwyllt a chadwraeth.
- Ac yn ogystal â hyn i gyd byddwch yn gallu croesawu aelod newydd i'ch teulu ac yn cael ffrind newydd!

Cofiwch fod Mabwysiadu Anifail yn syniad gwreiddiol ac anarferol fel anrheg Nadolig, Pen-blwydd, adeg y Pasg ac ar achlysuron arbennig eraill.
I gael ffurflen gais, a rhestr o anifeiliaid y gallwch eu Mabwysiadu ffoniwch neu ysgrifennwch at:

Yr Ysgrifennydd Mabwysiadu
Cymdeithas Sŵolegol Cymru
Y Sw Fynydd Gymreig
Bae Colwyn, Gogledd Cymru ,
LL28 5UY .

Ffôn: 01492 532 938