 C. Ym mhle mae'r Sw a sut ydw i yn mynd yno? A. Mae'r Sw wedi ei lleoli ar ben bryn uwchben Bae Colwyn yng Ngogledd Cymru. Os ydych yn teithio mewn car, gadewch Draffordd A55 yng Nghyfnewidfa Llandrillo-yn-Rhos (Cyffordd 20) – dim ond 3 munud o waith gyrru yw'r Sw oddi yma ac mae wedi ei harwyddo. Adeg y Pasg ac o fis Mai hyd at ganol mis Medi bydd bws mini di-dâl y Sw yn cynnal gwasanaeth di-dor yn ddyddiol o Orsaf Reilffordd Bae Colwyn
C. Beth yw eich cyfeiriad post llawn, er mwyn i mi deipio hwn ar fy system SAT NAV? A. Y Sw Fynydd Gymreig, Yr Hen Briffordd, Bae Colwyn, Conwy LL28 5UY
C. Pa mor bell yw'r Sw o Ganol Tref Bae Colwyn? A. Mae'r Sw wedi ei lleoli oddeutu ½ milltir o dref Bae Colwyn . Adeg y Pasg ac o fis Mai hyd at ganol mis Medi bydd bws mini di-dâl y Sw yn cynnal gwasanaeth di-dor yn ddyddiol o Orsaf Reilffordd Bae Colwyn.
C. A yw'n anodd i bobl sy'n cael trafferth i symud grwydro o amgylch y Sw? A. Oherwydd ei lleoliad, efallai y bydd ymwelwyr sy'n cael trafferth i symud yn cael anhawster i fynd i rannau arbennig o'r Sw. Ni chodir tâl mynediad ar bobl sy'n gaeth i gadeiriau olwyn.
C. Ydych chi'n llogi pramiau ysgafn/cadeiriau olwyn? A. Ydym. Mae'n bosibl llogi pramiau ysgafn a chadeiriau olwyn yn ddi-dâl o Swyddfa'r Sw.
C. Allaf i ddod â'm ci i mewn i'r Sw? A. Gellir dod â chŵn i mewn i'r Sw a mynd â nhw am dro yn y rhan sydd heb ei tharmacio o'r Maes Parcio yn unig (mewn modd rhesymol ac ar dennyn bob amser). Ni chaniateir iddynt fynd i unrhyw ran arall o'r Sw, oherwydd gallai hyn beryglu lles anifeiliaid y Sw.
C. Pa mor fawr yw'r Sw? A. Mae'r Sw a'i gerddi ar safle 37 acer. |