Welsh Mountain Zoo

 
Safari Cafe

Cyfleusterau Arlwyo

Mae ein cyfleusterau arlwyo ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Enillodd Bwyty Safari wobr ‘Silver Standard Dining' ac mae wedi ei leoli ar y brif lôn. Mae gan y bwyty falconi sy'n edrych dros Ffald y Teigr ac mae'n gweini prydau poeth ac oer.

Mae Bwyty Newydd Flagstaff yn edrych dros ffald Pengwiniaid Humboldt a chefngwlad eang Gogledd Cymru. Yma ceir prydau iach, fel Saladau, Tatws trwy'u Crwyn a Paninis.

Mae safleoedd picnic i'w cael hefyd o amgylch tir y Sw

Gift Shop

Siop y Sw

Mae'r Caban Gwerthu wedi ei leoli ger y prif faes parcio ac mae'n cynnig amrywiaeth eang o anrhegion a chofroddion.

Felly beth am brynu crys ti, tegan meddal neu beth am fabwysiadu anifail- dim ond llenwi ffurflen syml.

Adventure Playarea

Byd Antur y Jyngl
Mae Byd Antur y Jyngl yn golygu hwyl anhygoel i blant o bob oedran, ac mae ein Troedffordd Tarzan yn cynnig her a fydd yn cadw'r plant yn brysur am oriau ac yn sicr o godi archwaeth.

Ystafell Newid Babanod
Mae'r cyfleuster hwn y drws nesaf i'r Caban Gwerthu.

Maes Parcio Ceir a Choetsis Canolog yn agos at y cyfleusterau.

Mynediad - Gwybodaeth
Oherwydd ei lleoliad, efallai y bydd ymwelwyr sy'n cael trafferth i symud yn cael anhawster i fynd i rannau arbennig o'r Sw.

Gellir llogi Cadeiriau Olwyn a Phramiau Ysgafn YN DDI-DÂL o Swyddfa'r Sw.

Gellir dod â ch ŵn i mewn i'r Sw a mynd â nhw am dro yn y rhan sydd heb ei tharmacio o'r Maes Parcio yn unig (mewn modd rhesymol ac ar dennyn bob amser). Ni chaniateir iddynt fynd i unrhyw ran arall o'r Sw, oherwydd gallai hyn beryglu lles anifeiliaid y Sw.

Os ydych yn colli eiddo neu os oes arnoch angen Cymorth Cyntaf, holwch yn siop y Caban Gwerthu neu yn Swyddfa'r Sw.