Sesiynau Dysgu
Cyfarfyddiadau Agos Grwpiau Meithrin – cyfle i gyfarfod rhai o'r anifeiliaid sy'n byw yn y Ganolfan Addysg.
Sesiynau Dysgu ar gyfer Profiad Ymarferol Cyffredinol CA1 (dosbarthiad) - cyfle i gyfarfod rhai o'r anifeiliaid yn y Ganolfan Addysg ac archwilio'r gwahaniaethau rhyngddynt. Profiad Ymarferol Cyffredinol (cynefinoedd) - cyfle i gyfarfod rhai o'r anifeiliaid a darganfod o ble y daethant a sut y byddwn yn gofalu amdanynt.
Gofalu am Anifeiliaid – cyfle i weld sut y mae gwahanol anifeiliaid yn symud ac yn tyfu, a sut i'w cadw'n iach. Sesiynau Dysgu ar gyfer Profiad Ymarferol Cyffredinol CA2 (dosbarthiad) – cyfle i gyfarfod rhai o'r anifeiliaid a darganfod sut y byddwn yn eu dosbarthu yn grwpiau gwahanol.
Profiad Ymarferol Cyffredinol (cynefinoedd ac addasiad) - cyfle i gyfarfod rhai o'r anifeiliaid a darganfod sut y maent wedi ymaddasu i'w hamgylchedd .
Gofalu Am Anifeiliaid – beth sydd ei angen ar anifeiliaid i'w cadw'n iach – edrych ar ddeiet a chadwyni bwyd.
Pam y mae'n rhaid cael Sŵau? – sut y gall sŵau helpu anifeiliaid mewn perygl (defnyddiol fel rhan o brosiect cadwraeth).
Sesiynau Dysgu ar gyfer Profiadau Ymarferol Cyffredinol CA3 (dosbarthiad) – cyfle i gyfarfod rhai o'r anifeiliaid yn y Ganolfan Addysg ac archwilio'r gwahaniaethau rhyngddynt.
Profiadau Ymarferol Cyffredinol (cynefinoedd) – cyfle i gyfarfod rhai o'r anifeiliaid a darganfod sut y maent wedi ymaddasu i'w hamgylchedd penodol.
Perthnaseddau Bwydo – cyfle i weld sut y mae gwahanol anifeiliaid yn y Ganolfan Addysg yn ffitio i'r gadwyn fwyd. Cipolwg ar sut y mae cemegolion yn effeithio ar ein bywyd gwyllt.
Competition/Predation - a look at some ecological factors affecting the habitats in which animals live.
Cystadleuaeth/Ysglyfaethu – golwg ar rai ffactorau ecolegol sy'n effeithio ar gynefinoedd anifeiliaid.
Pam y mae'n rhaid cael Sŵau? – sut y mae s ŵau yn helpu i achub rhywogaethau sydd mewn perygl (defnyddiol fel rhan o brosiect cadwraeth). |