Welsh Mountain Zoo

Polecat

Adnoddau wedi'u Hargraffu

Cynigiwn amrediad o daflenni Llwybrau'r Sw a Phecynnau Addysg y gellir eu defnyddio yn y Sw i ddarganfod mwy am ein hanifeiliaid. Y bwriad bob tro yw cwmpasu holl agweddau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, a cheir nodiadau hollgynhwysol i athrawon gyda phob un, sy'n lleihau'r gwaith o fynd ar ymweliad â'r Sw. Mae cyfres o Daflenni Ffeithiau a Thaflenni Thema yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i arweinwyr grwpiau neu ddisgyblion am ein Sw a'i hanifeiliaid cyn iddynt ddod ar ymweliad.

Mae'r deunydd i gyd wedi ei baratoi i ategu ymweliad â'r Sw Fynydd Gymreig, ac mae'n ymwneud ag agweddau penodol ar Fywyd a Phrosesau Bywyd y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Mae'r rhan fwyaf o'n hadnoddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Rydym yn gwerthu un copi, a gellir llungopïo hwnnw wedyn yn yr ysgol.

Yn achos Ysgolion Meithrin, CA1 a CA2 mae Sesiynau Grwpiau ac adnoddau yn amcanu'n benodol i gwmpasu prosesau bywyd, amrywiaeth a dosbarthiad, a phethau byw yn eu hamgylchedd.

 

Eitemau

Taflenni ‘Ffeithiau' (£2.00 y set) – Set o daflenni gwybodaeth yn ymwneud â phynciau fel dosbarthiad, ymlusgiaid, lliw, fforestydd glaw.....

Taflenni Gwybodaeth am Rywogaethau (£4.00 y set) - Set o daflenni gwybodaeth yn cwmpasu amrediad o anifeiliaid y byddwch yn eu cyfarfod yn y Sw.

Cynefin/Bridio/Deiet...

Infertebratau yn yr Ystafell Ddosbarth (£2.00 y set) - Gwybodaeth am infertebratau y gellir eu cadw'n ddidrafferth yn yr ystafell ddosbarth. Sut i ofalu amdanynt ac ym mhle y gellir eu darganfod.

Pecyn CA1 (£5.00 y pecyn) – Mae hwn yn cwmpasu dosbarthiad sylfaenol, cynefinoedd a bwydo anifeiliaid.

Mae hwn yn cynnwys gweithgareddau cyn/yn ystod/ac ar ôl eich ymweliad.
Pecyn CA2 (£5.00 y pecyn) – Cynnwys tebyg i becyn CA1, ond ar lefel uwch.

Llwybrau CA2 (£2.00 y llwybr) – Arweiniwch y disgyblion o amgylch y Sw a thrafodwch bynciau penodol: Llwybr Bywyd Gwyllt Brodorol Prydeinig, Llwybr Anifeiliaid Mewn Perygl a Llwybr y Plant Iau

Ar gyfer CA3, CA4 a Grwpiau Colegau

Taflenni ‘Ffeithiau' (£2.00 y set)
– Set o daflenni gwybodaeth yn trafod pynciau megis dosbarthiad, ymlusgiaid, lliw, fforestydd glaw....

Taflenni Gwybodaeth Rhywogaethau (£4.00 y set) - Set o daflenni gwybodaeth yn trafod amrediad o anifeilaid y byddwch yn eu cyfarfod yn y Sw. Cynefin/Bridio/Deiet...

Infertebratau yn yr Ystafell Ddosbarth (£2.00 y set)
– Gwybodaeth am infertebratau y gellir eu cadw'n ddidrafferth yn yr ystafell ddosbarth. Sut i ofalu amdanynt ac ymhle y gellir eu darganfod.

Pecyn CA3 (£5.00 y pecyn)
– Mae'n trafod dosbarthiad, addasiad a chystadleuaeth. Mae'n cynnwys gweithgareddau i'w gwneud cyn/yn ystod/ar ôl eich ymweliad.

Pecyn CA4 (£5.00 y pecyn)
– Cynnwys tebyg i becyn CA3, ond ar lefel uwch.

Llwybrau CA3 a CA4 (£2.00 y llwybr) – Arweiniwch y disgyblion o amgylch y Sw a thrafodwch bynciau penodol: Llwybr Bywyd Gwyllt Brodorol Prydeinig a Llwybr Anifeiliaid Mewn Perygl