 Cyfarfod Anifail
Cyfarfod Anifail yw'r cynllun sy'n ei gwneud hi'n bosibl ichi gyfarfod a bwydo anifail yn y Sw Fynydd Gymreig.
Drwy archebu ymlaen llaw yn unig, pwrpas y cynllun hwn yw rhoi cyfle i rai sy'n dod i'r Sw Fynydd Gymreig gael cyfle arbennig i fwydo a dysgu am anifeiliaid penodol. Credwn y bydd hyn yn rhoi mwy o fwynhad, gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'r anifeiliaid. Defnyddir y ffioedd i hyrwyddo amcanion cadwraethol elusennol ac addysgol y Sw.
|
|
| |
 Cyfarfod Anifail - Manylion
Mae'r cynllun Cyfarfod Anifail ar gael i un neu ddau berson ar y tro, ond ni chaniateir fyth mwy na dau.
Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn deall fod yn rhaid inni sicrhau bob amser ein bod yn dilyn rheolau caeth iechyd a diogelwch a lles anifeiliaid. Rhaid ichi wneud y canlynol bob amser:
·dilyn cyfarwyddiadau'r ciper.
·defnyddio'r bwyd a ddarperir gan y ciper yn unig.
·gwisgo'r menig amddiffynnol tafladwy a roddir ichi (dywedwch os ydych yn alergaidd i rwber) a defnyddio'r gel glanhau dwylo gwrthfacteria ar ddiwedd y sesiwn.
Mae'r cynllun yn gyfle i gyfarfod a bwydo rhai anifeiliaid – gweler rhestr isod. Bydd ciper hyfforddedig bob amser wrth law i oruchwylio'r sesiwn a bydd ar gael i ateb cwestiynau am yr anifail a ddewiswyd gennych. |
|
 Yr Anifeiliaid
Dyma'r anifeiliaid y gallwch eu cyfarfod a'u bwydo: ·Teigr Swmatra* ·Pengwin Humboldt ·Morlo Clustiog Califfornia* ·Condor yr Andes * ·Primatiaid* ·Aderyn Ysglyfaethus (ar faneg)
Sylwer. Drwy gydol y sesiwn “Cyfarfod Anifail” bydd barrau diogelwch amddiffynnol rhyngoch chi a'r anifeiliaid sy'n cael eu nodi â seren (*). |
|
 Cost
Dyma gost cymryd rhan yn y cynllun: £65.00 i un person, am sesiwn 20 munud. £90.00 i ddau berson, am sesiwn 20 munud.
Nodwch fod y costau uchod yn cynnwys mynediad i'r Sw i ddau o bobl (oedolyn neu blentyn) am gyfnod anghyfyngedig yn ystod y dydd. Bydd yn rhaid i unrhyw bersonau ychwanegol dalu'r tâl mynediad arferol.
Aelodau llawn Cydgymdeithas CSC (sydd eisoes yn ddeiliaid tocyn mynediad anghyfyngedig i'r Sw): £50.00 i un person am sesiwn 20 munud. £75.00 i ddau berson am sesiwn 20 munud.
I lawrlwytho ffurflen gais mewn fformat dogfen Word, cliciwch yma . |
|