 CIPER Y MIS - MIS MEDI
Simon Killick yw ciper yr adar yma yn y Sw Fynydd Gymreig.
Ym mis Mehefin derbyniodd ddwy alwad ffôn gan bobl oedd yn byw yng Ngogledd Cymru oedd wedi darganfod Tylluanod Brych gwyllt yn eu gerddi. Roeddent yn bryderus gan fod y Tylluanod i'w gweld yn rhai ifanc iawn ac nid oeddynt wedi symud o'r gerddi ers tro.
Y Dylluan Frech yw'r Dylluan fwyaf cyffredin yn Ewrop. Mae ei chorff yn mesur tua 38cm ac mae lled ei hadenydd yn 95-105cm. Mae'n hela adar a mamaliaid bychain, llyffantod a phryfed drwy ddisgyn yn gyflym arnynt. Mae'r gwryw a'r fenyw yn paru am oes ac mae'r ddau riant yn rhannu'r gwaith o fwydo'r cywion.
Rhoddodd y Sw Fynydd Gymreig gartref i'r Tylluanod Brych hyn, y ddwy o wahanol ardaloedd yng Ngogledd Cymru, a dechreuodd Simon ar y gwaith o'u magu.
|
|
| |
 Dim ond pedair wythnos oed oedd y ddwy Dylluan pan ddaethant yma, ac roedd rhaid iddynt aros am tua phedwar mis yn y Sw, lle gofalai Simon amdanynt.
Roedd hi'n bwysig nad oedd Simon yn dod yn rhy hoff o'r Tylluanod gan mai dim ond er mwyn cael cyfle i dyfu y daethant i'r Sw, cyn cael eu rhyddhau i'r gwyllt unwaith eto. Roedd yn bwysig felly peidio â rhoi enwau iddynt a pheidio â'u hanwesu.
Ar ôl treulio pedwar mis yn y Sw Fynydd Gymreig, tyfodd plu hedfan y ddwy Dylluan a chawsant eu cludo i'r fan lle cawsant eu darganfod a'u rhyddhau yno. |
|