 Ciper am Ddiwrnod
Wnaethoch chi erioed ddychmygu sut brofiad fyddai bod yn GIPER YN Y SW a gallu agosáu at, a dod i adnabod llawer o anifeiliaid mewn perygl? Wel nawr mae'n bosibl i chi wneud hyn!
Fel Ciper am Ddiwrnod bydd eich diwrnod yn cychwyn am 10am ac yn gorffen am 4pm. Y gost ar gyfer y diwrnod cyfan yw £150 ac mae'n cynnwys:
- Y cyfle i gyfarfod, bwydo a charthu ffaldiau rhai o'r anifeiliaid mwyaf rhyfeddol yn y byd
- Diwrnod cyfan gyda Chiperiaid y Sw
- Mynediad i'r Sw i ymwelydd gwadd am ddiwrnod CYFAN
- Cinio am ddim
- Crys-ti Ciper am Ddiwrnod
- Pecyn o nwyddau a thystysgrif
- Atgofion ardderchog
Noder fod yn rhaid i bob un sy'n cymryd rhan yn y cynllun Ciper am Ddiwrnod fod yn hŷn na 16 oed. I rai dan 16 oed, gweler ein tudalen Cyfarfod Anifail.
|
|
| |
 Mae'r cynllun Ciper am Ddiwrnod i'w gael yn unig drwy archebu ymlaen llaw ac mae wedi ei anelu at wella gwerthfawrogiad, ac ar yr un pryd mae'n rhoi atgofion ardderchog ichi y byddwch yn eu trysori am byth.
Bydd yr holl ffioedd fydd yn deillio o'r cynllun unigryw hwn yn cael eu defnyddio i wella cadwraeth elusennol ac amcanion addysgol y Sw ymhellach.
Bydd y cynllun Ciper am Ddiwrnod ar gael ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn a dim ond un person yn unig all fod yn 'Giper am Ddiwrnod' ar unrhyw un adeg. Pwrpas hyn yw sicrhau fod y cysylltiad fyddwch chi'n ei gael gyda'n hanifeiliaid yn un gwirioneddol agos ac unigryw.
Unwaith y bydd wedi archebu lle, bydd y cyfranogwr yn derbyn pecyn gwybodaeth 'Ciper am Ddiwrnod', sy'n amlinellu trefn iechyd a diogelwch, telerau ac amodau a datganiad. Rhaid i'r holl ddogfennau hyn gael eu cwblhau gan y cyfranogwr a'u trosglwyddo i'r Sw cyn cael y profiad.
Dyma eich cyfle i weld beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn y Sw Fynydd Gymreig.
Os hoffech weld ffurflen gais gallwch lawrlwytho Dogfen Word drwy glicio yma, neu ffoniwch ysgrifennydd Profiad gydag Anifeiliaid ar 01492 532938 neu e-bostiwch: nicola@welshmountainzoo.org |
|
 Dylech nodi'r pwyntiau canlynol: Telerau ac amodau Ciper am Ddiwrnod
- Mae'r cynllun Ciper am Ddiwrnod ar gael i rai sy'n 16 oed a hŷn
- Gellir archebu ar unrhyw ddiwrnod o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
- Ni ellir archebu dros y ffôn
- Mae'n hanfodol archebu 2 wythnos o leiaf ymlaen llaw, fodd bynnag bydd y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn archebu 2 fis ymlaen llaw.
- Rhaid i bob cyfranogwr gynnig 4 dewis o ddyddiadau i'r Sw.
- Dylech wisgo dillad addas i weithio gyda'r anifeiliaid a rhai ar gyfer pob math o dywydd ac esgidiau glaw.
- Ni roddir ad-daliadau os bydd rhywun yn canslo lai na mis ymlaen llaw.
- Mae Ciper am Ddiwrnod yn brofiad cyfyngedig i un person.
- Bydd y cynllun hwn yn caniatáu mynediad am ddim i un ymwelydd gwadd.
- Bydd yn rhaid i'r holl ymwelwyr gwadd eraill dalu pris mynediad i ddod i'r Sw.
- Profiad ar gyfer y derbynnydd yn unig yw hwn.
- Trefnwyd amserlen Ciper am Ddiwrnod er mwyn gallu treulio cymaint o amser ag sydd bosibl gyda'r ciperiaid heb amharu ar waith arferol y Sw.
- Os bydd amgylchiadau yn mynnu felly, er enghraifft yn achos tywydd garw neu os bydd anifail arbennig yn wael, efallai y bydd angen newid eich dyddiad
- Mae'r Sw Fynydd Gymreig yn cadw'r hawl i gau'r holl Sw neu rannau ohoni yn ôl yr angen.
- Mae angen bod yn rhesymol ffit i gymryd rhan yn y diwrnod
- Nid yw'r cynllun Ciper am Ddiwrnod ar gael i ferched sy'n feichiog
- Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio'n unig i'r diben a fwriadwyd ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo i unrhyw drydydd parti.
- Nid yw'r profiadau yn addas i rai sy'n alergaidd i lwch neu ffwr neu wasarn anifeiliaid.
|
|