Cadwraeth

Tuppence Mae llawer o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt dan fygythiad cynyddol. Mae llawer o rywogaethau mewn perygl,  a hynny’n aml o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth ddynol. Mae Sŵau Modern yn cynnig gwarchodfa i anifeiliaid y mae eu cynefin gwyllt wedi diflannu. Drwy’r byd i gyd, mae Sŵau a gerddi botanegol yn cyd-weithio i helpu i gynnal yr amrywiaeth aruthrol o rywogaethau ar ein planed. Mae sŵau yn bridio anifeiliaid sydd mewn perygl. Y ffordd orau o achub anifeiliaid yw yn eu hamgylchfyd eu hunain. Mewn llawer o achosion nid yw hyn yn bosibl, ac mae’n gwneud synnwyr sefydlu poblogaeth neilltuedig ymhell o beryglon y cynefin gwyllt. Y Sw Fodern Heddiw mae’r Sŵau gorau a’r rhai mwyaf blaengar fel arfer yn ystyried mai eu prif swyddogaethau yw cadwraeth, addysg, astudiaeth wyddonol ac adloniant. Am nifer o flynyddoedd bellach, mae athrawon ac addysgwyr wedi gwerthfawrogi potensial y Sw fodern fel ffordd o gyfleu rhyfeddod ac amrywiaeth y byd naturiol i’r to ifanc. Bellach nid rhannu gwybodaeth yn unig yw gwaith sŵau, ond yn hytrach codi a chynyddu ymwybyddiaeth fel rhan o’r mudiad amgylcheddol ehangach. Mae’r gwaith pwysig a wneir gan Sŵau yn seiliedig ar wahanol ddisgyblaethau gwyddonol, megis maethiad, ymddygiad, geneteg, bioleg atgynhyrchu, ecoleg a gwyddoniaeth filfeddygol. Mae datblygiadau mewn hwsmonaeth a rheolaeth anifeiliaid wedi gwella lles anifeiliaid mewn Sŵau ac wedi caniatáu i Sŵau ymateb i alwadau brys o’r gymuned gadwraeth. Mae effaith ddinistriol gweithgareddau dynol ar gynefinoedd naturiol ac anifeiliaid gwyllt wedi bygwth goroesiad nifer o rywogaethau. Nawr mae sŵau yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnal a chadw amrywiaeth fiolegol y ddaear drwy gyfrwng rhaglenni bridio. Rhaglenni Bridio Ers dechrau’r saithdegau, mae’r Sw Fynydd Gymreig, mewn ymateb i anghenion cadwraeth bywyd gwyllt, wedi bod yn ailasesu natur ei chasgliad o anifeiliaid. Caniataodd hyn i’r Sw ymuno â rhai o’r rhaglenni bridio cydweithredol sy’n datblygu rhwng Sŵau ac sy’n cwmpasu amrediad eang o rywogaethau mewn perygl. Cymeradwyir llawer o’r rhaglenni gan Gomisiwn Goroesiad Rhywogaethau Undeb Cadwraeth y Byd. Mae’r adnoddau ariannol ym Mae Colwyn yn gyfyngedig ac mae’r penderfyniad i ymuno â rhaglen fridio reoledig weithiau’n golygu na ellir parhau i gadw rhywogaethau eraill llai sensitif o safbwynt cadwraeth. Rhywogaethau eraill a reolir yn gydweithredol yw:

  • Ceffyl Gwyllt Przewalski
  • Condor yr Andes
  • Tsimpansî
  • Gibon Lar
  • Tamarin Penwyn
  • Pengwin Humboldt
  • Fflamingo Chile
  • Morlo Clustiog California
  • Lemwr Cynffon Fodrwyog
  • Lemwr Talcen Coch
  • Hefyd, y rhywogaeth Brydeinig frodorol:
    • Y Wiwer Goch

Dylid ystyried yr anifeiliaid a welir yn y Sw Fynydd Gymreig fel rhan yn unig o boblogaeth llawer ehangach mewn Sŵau drwy’r byd. Maent yn rhan o bolisi yswiriant cadwraethol; yn barod, pe gwaethygai cyflwr poblogaethau anifeiliaid gwyllt yn ddifrifol, ar gyfer y posibilrwydd o weithredu rhaglenni ailgyflwyno. Mae Rhaglen Fridio Ynysoedd Prydain yn achos y Wiwer Goch hefyd yn cael ei rhedeg o’r Sw Fynydd Gymreig ac aelod o staff y Sw yw Cydlynydd Rhywogaethau cyfredol y Rhaglen. Ni chyfyngwyd ymrwymiad y Sw Fynydd Gymreig i warchod rhywogaethau trwy fridio mewn caethiwed yn unig. Mae’r Sw yn gweithredu polisi o roi cymorth, lle bo hynny’n bosibl, i brosiectau sy’n ceisio achub cynefinoedd naturiol. Er enghraifft, mae’r Sw wedi rhoi cymorth ariannol i brosiect cadwraeth Lemyriaid ym Madagascar.   Ymholiad Gwyddonol Nid yw’r adnoddau ariannol ar gael gan Gymdeithas Sŵolegol Cymru i gyflogi gwyddonwyr ymchwil. Serch hynny, mae’r Gymdeithas yn ymwybodol iawn o’i dyletswyddau i sicrhau fod anifeiliaid yn y sw o fewn cyrraedd y gymuned wyddonol, fel y gall y sw wneud ei rhan yn y gwaith o ehangu gwybodaeth dyn o’r byd naturiol. Mae prosiectau ymchwil o’r fath a gynhelir yn y Sw Fynydd Gymreig gan wyddonwyr ar ymweliad yn rhai anymwthiol; nid ydynt yn ymyrryd â lles yr anifeiliaid nac yn aflonyddu ar raglenni bridio. Enghraifft dda o hyn fyddai prosiect yn ymwneud â sylwadaeth fanwl ar ymddygiad. Gall myfyrwyr o nifer o Brifysgolion Prydain ddefnyddio adnoddau’r sw i gyflawni Prosiectau Anrhydedd, a gwaith ymchwil ar gyfer graddau uwch. Mae’r Sw Fynydd Gymreig hefyd yn cynnig cymorth rheolaidd i brosiectau ymchwil mewn rhannau eraill o’r byd. Canolfan Achub Morloi Gogledd Cymru Ers i’r sw agor ym 1962 mae amrywiaeth o rywogaethau o anifeiliaid brodorol sydd wedi cael eu hanafu ac sy’n amddifad wedi cael eu cludo yno i gael gofal ac i’w hailsefydlu. Yn ddiweddar mae’r rhan fwyaf o’r gofal hwn wedi canolbwyntio ar forloi llwyd ifanc ac ar brydiau morloi cyffredin. Gwneir y gwaith hwn mewn cydweithrediad ag RSPCA, ac ym 1997 agorwyd Canolfan Achub Morloi Gogledd Cymru yn y sw. Mae gan y ganolfan ddau bwll â chyfleuster hidlo ac uned gofal dwys mewnol. Arweiniodd y datblygiad hwn, a gyllidwyd gan gyfeillion a chefnogwyr y Sw, at welliant yn y gofal a roddir, ac at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu trin, cyn iddynt gael eu rhyddhau’n ôl i’r môr. Cofnodion Anifeiliaid Un o’r elfennau pwysicaf yn achos rhaglenni bridio wedi eu cyd-drefnu yw cadw cofnodion. Yn y Sw Fynydd Gymreig cedwir cofnodion ar y System Rheoli Gwybodaeth Sŵolegol neu ZIMS fel y gelwir hi, sef meddalwedd newydd soffistigedig i reoli  anifeiliaid a ddyfeisiwyd yn UDA. Mae’r Sw Fynydd Gymreig hefyd yn aelod o ISIS, System Ryngwladol Gwybodaeth am Rywogaethau, sydd â’i chanolfan yn Minnesota ac anfonir yr holl ddata i’w chronfa ddata ryngwladol. Mae’r systemau cadw cofnodion hyn sy’n dod yn fwyfwy soffistigedig yn hanfodol i hyrwyddo llwyddiant y rhaglenni bridio a gyd-drefnir yn genedlaethol a chydgenedlaethol. Mae mwy a mwy o’r rhaglenni hyn yn cael eu hannog a’u harwain gan y Grŵp Arbenigol ar Fridio mewn Caethiwed, sy’n rhan o Gomisiwn Goroesiad Rhywogaethau Undeb Cadwraeth y Byd.