Welsh Mountain Zoo | Gair am CSGC

Gair am CSGC

Ffurfiwyd Cymdeithas Sŵolegol Genedlaethol Cymru yn 1983, a ddaeth i ofalu am fuddiannau a gweithrediad ehangach y Sŵ.


Yn 2008, gyda chefnogaeth prif elusennau sŵau y DU, Cymdeithas Sŵau ac Acwaria Prydain ac Iwerddon a Llywodraeth Cynulliad Cymru, newidiodd y Sŵ ei henw i Gymdeithas Sŵolegol Genedlaethol Cymru a chafodd y Sŵ Fynydd Gymreig ei chydnabod yn swyddogol fel Sŵ Genedlaethol Cymru.

Ar ôl i'r elusen gael ei ffurfio'n swyddogol, cyhoeddodd y Sŵ yn swyddogol beth oedd amcanion ei gweledigaeth a’i datganiad cenhadaeth, sef:

Gweledigaeth: Byd lle mae anifeiliaid a'u cynefinoedd yn cael eu gwerthfawrogi, eu deall a'u gwarchod.

Cenhadaeth: Trwy ei gwaith yn y Sŵ Fynydd Gymreig – Sŵ Genedlaethol Cymru, ac mewn mannau eraill, mae'r Gymdeithas yn ceisio:

  • gwella gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o dreftadaeth naturiol y ddaear drwy addysg a hamdden cyhoeddus, a hyrwyddo astudiaeth fiolegol.
  • cefnogi cynnal amrywiaeth fiolegol y ddaear trwy gymryd rhan mewn rhaglenni bridio cadwraethol, a chynorthwyo cadwraeth yn y gwyllt.
  • bwrw ymlaen â’r amcanion a'r gweithgareddau uchod yn fyd-eang, yn rhanbarthol a chan roi pwyslais arbennig ar warchod a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru a'r moroedd o'i hamgylch.
Gwefan gan FutureStudios