Welsh Mountain Zoo | Amdanom ni

Amdanom ni

Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn cael ei hadnabod hefyd fel Sŵ Genedlaethol Cymru a hi yw’r sŵ hynaf a'r fwyaf sefydledig yng Nghymru. Cafodd ei chreu yn wreiddiol fel menter elusennol fechan gan y teulu Jackson yn 1963.


Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn sefyll ar safle gwyrdd 37 erw - un o’r tirweddau mwyaf prydferth ac unigryw i unrhyw sŵ yn y DU ac mae’n edrych i lawr dros Fae Colwyn a mynyddoedd y Carneddau yng Ngogledd Cymru.

Mae gennym dros 140 o rywogaethau yn ein casgliad rhyfeddol, a hyd yma rydym wedi croesawu mwy nag wyth miliwn o ymwelwyr drwy ein giatiau.

Rydym yn teimlo’n angerddol ynglŷn â’n Sŵ a'r anifeiliaid sy'n byw yma gyda ni. Mae cadwraeth yn dal i fod wrth wraidd ein hethos, ac mae goroesiad anifeiliaid a'u cynefinoedd yn y dyfodol yn parhau i’n gyrru yn ein blaenau bob amser.

Er ein bod yn awyddus i'n holl ymwelwyr brofi a mwynhau popeth sydd gan y Sŵ i'w gynnig, rydym hefyd yn dymuno rhannu a chodi ymwybyddiaeth o negeseuon hanfodol sy'n ymwneud â bywyd gwyllt, yr amgylchedd a'r effaith a gaiff ein gweithredoedd ar y byd ehangach.

Accreditations

Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Amdanom ni
Gwefan gan FutureStudios