Welsh Mountain Zoo | Gyrfaoedd a Gwirfoddoli

Gyrfaoedd a Gwirfoddoli

Mae'n cymryd llawer o bobl tra arbennig a thalentog i gadw ein Sŵ ar fynd – mwy na 30 ohonynt i ddweud y gwir! Er bod y swyddogaethau o fewn y Sŵ yn hynod o amrywiol, mae gan bob un o’n tîm un peth yn gyffredin sef yr un brwdfrydedd angerddol tuag at ein hanifeiliaid, ein tir a'r gwaith yr ydym yn ei wneud.


Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn un o atyniadau mwyaf blaenllaw Cymru ac nid yn unig mae’n cynnig diwrnod allan bendigedig i'r ymwelwyr niferus sy’n dod draw yno ond hefyd mae’n cyflawni gwaith cadwraeth hanfodol ar raddfa fyd-eang.

Mae'n cymryd llawer o bobl dalentog ac arbennig iawn i gadw ein Sŵ anhygoel ar fynd. Mae gennym dros 700 o anifeiliaid, a 37 erw o goetir a thir wedi'i dirlunio, dau fwyty a nifer o gyfleusterau addysgol a hamdden. Yn wir, mae hynny’n galw am nifer fawr o bobl cwbl neilltuol i’n helpu i weithredu’n llawn 364 diwrnod y flwyddyn.

Mae swydd yn y Sŵ yn rhoi cymaint o foddhad a hynny mewn llawer o wahanol ffyrdd, felly os ydych chi'n barod am her newydd mewn amgylchedd bendigedig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi ...

Gwefan gan FutureStudios