Welsh Mountain Zoo | Ein gerddi

Ein gerddi

Yn 1897 prynodd Dr Walter Whitehead, llawfeddyg o Fanceinion 37 erw o goetir ysblennydd uwchben Bae Colwyn, tref glan môr newydd oedd yn ymledu’n gyflym, a’i fwriad oedd ymddeol yno.


Rhoddwyd y cytundeb o ddylunio cynllun y stad newydd i Thomas Mawson, y pensaer tirluniol Fictoraidd adnabyddus, a seiliodd yntau’r prosiect ar lwybrau cerdded coediog rhamantus, borderi blodau, gerddi rhosod ffurfiol yn ogystal â chartrefi ar gyfer y staff. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn ei lyfr ar y pwnc ‘The Art and Craft of Garden Making’.

Ar ôl marwolaeth Dr Whitehead yn 1913, newidiodd y stad ddwylo nifer o weithiau, nes i’r safle gael ei gymryd drosodd gan y teulu Jackson yn 1962 ac agor yn ffurfiol fel Sŵ y flwyddyn ganlynol yn 1963.

Oherwydd ei chasgliadau cynyddol o blanhigion - rhai ohonynt yn brin a than fygythiad- mae’r Sŵ yn ei hystyried ei hun fel canolfan gadwraeth ar gyfer planhigion yn ogystal ag anifeiliaid ac yn cydnabod fod y gerddi yn rhan o adnodd addysgiadol cyffredinol y Sŵ. Mae gerddi’r Sŵ yn cynnwys planhigion a hadau o bob cwr o’r byd, o Chile, Canolbarth America a Mynyddoedd Himalaia.

Drwy weithio ochr yn ochr â phrif sefydliadau botanegol sicrheir fod planhigion yn cael eu hadnabod yn gywir. Mae Mynawyd y Bugail gwydn, Troed y Golomen ac amrywiaeth o’r Pabi Cymreig (Mecanopsis Cambrica) i gyd yn tyfu’n dda ar y safle hwn ar ochr y bryn. Mae Rhedyn, Bromeliadau a llu o blanhigion trofannol anarferol eraill i’w cael yn Nhai’r Ymlusgiaid a’r Aligatoriaid.

Gan fod ganddi gasgliadau cynyddol o blanhigion caled a throfannol, a rhai ohonynt yn brin a dan fygythiad, ystyrir y Sŵ fel canolfan gadwraeth ar gyfer fflora yn ogystal â ffawna.

Gwefan gan FutureStudios