Welsh Mountain Zoo | Raffl a Chodi arian

Raffl a Chodi arian

Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn un o ddeg prif atyniad Gogledd Cymru ac yn gartref i dros 500 o anifeiliaid, ac ystyrir bod rhai ohonynt ymhlith yr anifeiliaid sydd dan fwyaf o fygythiad yn y byd. O ystyried bod miloedd o ymwelwyr yn dod yma bob blwyddyn, mae ein proffil uchel yn golygu bod llawer o sefydliadau'n cysylltu â ni i geisio cael tocynnau mynediad am ddim ar gyfer gwobrau raffl ac arwerthiannau elusennol.


Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig – Cymdeithas Sŵolegol Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig ei hun, felly rhaid inni fonitro’n ofalus nifer y tocynnau mynediad am ddim sy’n cael eu rhoi i sefydliadau eraill ar gyfer digwyddiadau codi arian nad ydynt o fudd uniongyrchol i'r Sŵ neu i’n cenhadaeth elusennol.

Gan ein bod yn brif atyniad i ymwelwyr, rydym yn awyddus i gefnogi ein cymuned leol gymaint ag y gallwn. Er mwyn rheoli'r broses o roi tocynnau am ddim i sefydliadau eraill, pennwyd y meini prawf canlynol:

  • Bydd tocynnau'n cael eu rhoi i sefydliadau neu elusennau cofrestredig eraill y mae eu gwaith yn amlwg yn cefnogi neu'n ymwneud â'n cenhadaeth ni, (er mwyn cynorthwyo i warchod bioamrywiaeth ledled y byd), neu i ysgolion a grwpiau cymunedol yng Nghymru ac ardaloedd codau post LL ac CH;
  • Byddwn yn rhoi tocynnau yn uniongyrchol yn unig i sefydliadau ac elusennau yn hytrach nag i drydydd parti, h.y. nid i rai sy'n cynnal digwyddiadau ar ran elusennau neu achosion enwebedig eraill;
  • Dim ond un set o docynnau a fydd yn cael ei dyrannu i sefydliadau llwyddiannus mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis;

    Byddwn yn ystyried ceisiadau bedair gwaith y flwyddyn ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr a nifer cyfyngedig o docynnau fydd yn cael eu rhoi

    Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan ddefnyddio'r meini prawf uchod a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu drwy lythyr.

    Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen gais. Bydd RHAID postio hon ynghyd ag amlen A5 stampiedig gyda’ch cyfeiriad arni i’r: Cydgysylltydd Rhoddion, Y Sŵ Fynydd Gymreig, Bae Colwyn, Conwy, LL28 5UY

    Sylwer, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau drwy e-bost neu Facebook. Ni fyddwn yn ateb ceisiadau na fyddant yn cynnwys amlen stampiedig â chyfeiriad.

    LAWRLWYTHO FFURFLEN

    Gwefan gan FutureStudios