Wnaethoch chi erioed ddychmygu bwydo pysgod i Bengwin, cael miri gyda Meerkat neu gael cinio gydag un o’r cathod mawr?
Yna beth am wneud eich diwrnod yn fwy arbennig fyth a chamu i mewn i gyfarfod anifail. Dewch i adnabod a deall eich hoff anifail yn y Sŵ mewn ffordd gwbl arbennig.
Mae'r profiadau arbennig hyn ar gyfer unigolion neu gyplau yn rhoi cipolwg unigryw ichi o fyd y Meerkats, Pengwiniaid Humboldt, Morloi Clustiog Califfornia, Primatiaid neu Lewpard yr Eira. Cewch gyfle i fwydo'r anifeiliaid, sgwrsio â'r ciperiaid a darganfod mwy am y rhywogaethau rhyfeddol hyn.
Cost cymryd rhan yw £75.00 i 1 person a £100.00 i 2 berson. Mae’r sesiynau profiad hyn yn para oddeutu 20 munud. Ar gyfer aelodau llawn o ZSWA mae’r gost yn £65.00 i 1 person a £90.00 i 2 berson.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’n Cydgysylltydd Cyfarfod Anifeiliaid yn marketing@welshmountainzoo.org