Welsh Mountain Zoo | Agwti Azara

Agwti Azara

Dasyprocta azarae


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Creadur bach swil yw Agwti Azara, sy'n byw yn iseldiroedd De America. Maen nhw'n bwyta ar eu heistedd ac mae eu deiet yn cynnwys ffrwythau, planhigion, hadau a chnau, ac maen nhw’n defnyddio eu pawennau i afael yn eu bwyd, yn union fel gwiwerod. Maen nhw’n adnabyddus am eu dannedd sy’n hynod o finiog a’r rhain yw’r unig famaliaid sy’n gallu torri cneuen Brasil gyda'u genau cryfion.

Cynefin Brodorol →

Bolifia, yr Ariannin,Paragwâi a Brasil

Cynefin naturiol  →

Fforestydd glaw'r iseldiroedd

Deiet  →

Llysysol: hadau, cnau a ffrwythau

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: Anhysbys. Mewn sw: Hyd at 20 mlynedd

Bridio  →

Cyfnod cario: tua 90 diwrnod. 2 - 4 epil

Enw'r grwp  →

Torf

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Hela

Ffaith Ddifyr

Mae Agwti Azara yn greadur unweddog, sy’n golygu ei fod yn aros gyda’r un partner drwy gydol ei oes.

Gwefan gan FutureStudios