Mae ein cathod mawr syfrdanol yn sicr yn mynnu digon o sylw. O dan eu cotiau meddal blewog mae’r rhai o grwpiau anifeiliaid mwyaf ffyrnig y blaned.
Mae’r Sŵ yn lwcus iawn o fod yn gartref i ddau Deigr Swmatra, dau Lewpard yr Eira a dwy Fargai. Daw’r ddwy rywogaeth gyntaf a rhyfeddol hyn o gyfandir Asia tra bo’r olaf yn dod o Dde America. Gan fod Llewpardiaid yr Eira yn cael eu hystyried dan fygythiad, rydym yn ymalchïo ein bod wedi cael llwyddiant wrth fridio’r Llewpardiaid hyn yn ogystal â’r Margai!
Gan eu bod ar frig y gadwyn fwyd, mae gan gathod mawr set o ddannedd miniog iawn, a chan fod ganddynt ewinedd tu hwnt o gryf cânt eu hystyried yn rhai o'r ysglyfaethwyr sy’n bwyta cig mwyaf peryglus ar y ddaear.
Mae ein cathod mawr yn crwydro ac yn prowla o amgylch eu ffaldiau sydd wedi eu dylunio’n ofalus i gopïo tirweddau amrywiol Asia a De America, gan ganiatáu ichi gael profiad o weld y creaduriaid ardderchog hyn yn eu hamgylchedd naturiol.