Ceir oddeutu 9,800 rhywogaeth o adar yn y byd. Mae hon yn rhywogaeth amrywiol tu hwnt ond mae’r holl adar yn rhannu rhai nodweddion cyffredin, maen nhw i gyd yn greaduriaid gwaed cynnes, wedi eu gorchuddio â phlu ac yn dodwy wyau.
Mae'r rhan fwyaf o adar yn gallu hedfan ac eithrio ychydig ohonynt, megis yr Estrys neu'r Rhea ond mae gan bob un ohonynt olwg hynod o graff, sy'n eu helpu i ganfod eu hysglyfaeth neu eu hysglyfaethwyr o bellter mawr.
Mae ein hadar yn dod o gynefinoedd tra gwahanol e.e. dyfroedd rhewllyd y Pengwin Humboldt cyflym a glannau bas Fflamingo Chile, coedydd uchel y Dylluan a gwastadeddau isel yr Emiw. Rydyn ni'n ymfalchïo’n arbennig yn ein harddangosfeydd o Adar Ysglyfaethus yn yr haf lle gallwch chi ddod i adnabod ac agosáu at y rhywogaethau urddasol a phwerus hyn.