Welsh Mountain Zoo | Ibis gyddfddu

Ibis gyddfddu

Theristicus melanopis


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Ceir yr Ibis gyddfddu ar hyd a lled De a Gorllewin De America, ac mae’r aderyn hwn sy’n ddigon hawdd ei adnabod, yn fawr ac yn gymdeithasol ac mae’r un mor gartrefol ar y ddaear ag yn hedfan yn uchel yn yr awyr. Yn gyffredinol mae'r Ibis yn teithio mewn parau neu grwpiau bach ac yn bwydo ar bryfed genwair a phryfed yn ogystal ag amffibiaid a chnofilod bach.

Cynefin Brodorol →

De America: yr Ariannin, Chile a Pheriw

Cynefin naturiol  →

Gwelltiroedd, gwlyptiroedd a choedwig

Deiet  →

Cigysol: pryfed, pryfed genwair, amffibiaid, adar ifanc, mamaliaid bychain a molysgiaid

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: 15 - 20 mlynedd. Mewn sw: hyd at 20 mlynedd

Bridio  →

2 wy. Cyfnod deor: tua 28 diwrnod

Enw'r grwp  →

Haid

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Colli cynefin

Ffaith Ddifyr

Mae pig hirfain yr Ibis Gyddfddu yn grwm, ac mae ganddo ffroenau fel holltau ar ei waelod. Mae’r nodwedd forffolegol hon yn caniatáu i’r aderyn anadlu wrth fwydo a chwilota mewn dŵr a llaid.

Gwefan gan FutureStudios