Welsh Mountain Zoo | Peithon Byrma

Peithon Byrma

Python bivittatus


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Mae Peithon Byrma yn mesur 4.8 m o hyd ar gyfartaledd ac yn gallu tyfu’n 7 m, ac felly yn un o’r nadroedd mwyaf yn y byd. Mae’r nadroedd hyn yn cael eu hela’n sylweddol iawn er mwyn cael eu croen ac wedi’u gosod yn y categori rhywogaeth ‘dan fygythiad’ gan yr IUCN.

Cynefin Brodorol →

De a de ddwyrain Asia

Cynefin naturiol  →

Gwlyptiroedd, gwelltiroedd, coedwigoedd ac ogofâu

Deiet  →

Cigysol: mamaliaid bach – mawr, adar, ymlusgiaid ac amffibiaid

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: 20 - 25 mlynedd. Mewn sw: hyd at 30 mlynedd

Bridio  →

80-100 o wyau. Cyfnod deor: tua 60 diwrnod

Enw'r grwp  →

Anhysbys

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y nos

Bygythiadau  →

Hela, Colli cynefin

Ffaith Ddifyr

Mae Peithon Byrma yn un o’r pum neidr fwyaf yn y byd. Mae un o’n nadroedd ni ychydig mwy na 18 troedfedd!

Gwefan gan FutureStudios