Welsh Mountain Zoo | Crëyr y Gwartheg

Crëyr y Gwartheg

Bubulcus ibis


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Mae Crehyrod y Gwartheg yn teithio ar draws ardaloedd eang tu hwnt ac fe'u ceir fel arfer mewn amgylcheddau cynnes a throfannol. Maen nhw wedi eu gorchuddio â phlu gwyn, gyda thalcen, bron a chefn pinc, ac maen nhw’n wahanol i’w cyd Grehyrod oherwydd eu pig sy’n llawer byrrach. Mae'r adar hyn yn teithio ymhell ac agos a cheir cofnodion eu bod wedi hedfan cyn belled i’r Gogledd â Gwlad yr Iâ, a chyn belled i'r De â Thasmania wrth fudo.

Cynefin Brodorol →

Brodorol mewn rhannau o Affrica, Asia ac Ewrop, ond wedi lledaenu i Ogledd a De America ac Awstralia

Cynefin naturiol  →

Coedwigoedd, gwelltiroedd a gwlyptiroedd

Deiet  →

Cigysol: pryfed, cramenogion, amffibiaid, adar bychain, madfallod a mamaliaid bychain

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: Anhysbys. Mewn sw: hyd at 23 mlynedd

Bridio  →

2-5 o wyau. Cyfnod deor: 40 - 45 diwrnod

Enw'r grwp  →

Cytref neu haid

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Hela, Colli cynefin

Ffaith Ddifyr

Mae Crehyrod y Gwartheg yn borthwyr oportiwnistaidd ac yn dilyn anifeiliaid mawr er mwyn dal pryfed. Amcangyfrifir eu bod yn casglu 50% yn fwy o fwyd ac yn defnyddio dim ond dwy ran o dair o’u hegni wrth fwydo gyda da byw.

Gwefan gan FutureStudios