Welsh Mountain Zoo | Fferm y Plant

Fferm y Plant

Mae ein Fferm ardderchog i’r plant yn caniatáu i’n hymwelwyr lleiaf ddod i gysylltiad â’n hanifeiliaid pluog a blewog.

Mae moch cwta, ieir, hwyaid a chwningod yn byw ar ein fferm, mewn ffaldiau eang lle gallant redeg, hopian, torsythu a nofio. Mae'r Fferm mewn llecyn tawel a hamddenol yng nghornel bellaf y Sŵ, ac mae'n rhoi cyfle i blant ifanc sy’n hoffi anifeiliaid weld a mwynhau casgliad bychan o anifeiliaid fferm yn eu hamgylchedd unigryw eu hunain.


Gwefan gan FutureStudios