Welsh Mountain Zoo | Tsimpansî

Tsimpansî

Pan troglodytes


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Mae hela a datgoedwigo wedi effeithio’n ddifrifol ar boblogaeth Tsimpansïaid yn y gwyllt. Hanner can mlynedd yn ôl yn unig roedd dros filiwn o tsimpansïaid yn byw yn Affrica - mae'r nifer hwnnw wedi gostwng yn ddramatig i rhwng 170,000 a 300,000, ac erbyn hyn mae’r rhywogaeth wedi cyrraedd statws 'mewn perygl'. Hwn yw’r anifail byw sy’n perthyn agosaf inni ac mae pobl yn rhannu oddeutu 99% o'r un DNA â Tsimpansïaid, gan amrywio yn ôl 1.2% yn unig.

Cynefin Brodorol →

Gorllewin a chanolbarth Affrica

Cynefin naturiol  →

Coedwigoedd trofannol

Deiet  →

Hollysol: pryfed, wyau, dail, ffrwythau

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: 40 - 50 mlynedd. Mewn sw: 50 mlynedd

Bridio  →

1 - 2 epil. Cyfnod cario: 8 mis

Enw'r grwp  →

Haflug

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Herwhela, Colli cynefin, Afiechydon

Ffaith Ddifyr

Mae’r tsimpansïaid yn gymdogion swnllyd iawn. Gellir clywed eu galwadau filltir i ffwrdd!

Mae eich rhoddion hael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol

Rhoi Nawr →

 Anifeiliaid Cysylltiedig

Edrychwch ar rai o’r anifeiliaid rhyfeddol eraill yn y sŵ sy’n perthyn i’r grŵp anifeiliaid hwn.

Gwefan gan FutureStudios