Y Rhea Lleiaf
Rhea pennata
- Not Evaluated
- Data Deficient
- Least Concern
- Near Threatened
- Vulnerable
- Endangered
- Critically Endangered
- Extinct in the Wild
- Extinct
Mae’r Rhea Lleiaf yn perthyn i grŵp o adar diasgell o’r enw ‘adar gwastatfron’ neu ‘Ratites’ yn Saesneg, sy’n cynnwys yr Emiw a’r Estrys. Gall y Rhea redeg yn hynod o gyflym ar gyflymder o 70 kya. Mae’r iâr yn dodwy hyd at 30 o wyau ond y ceiliog sy’n deor ac yn magu’r cywion. Cred yr IUCN y bydd y Rhea Lleiaf dan fygythiad o ddiflannu yn y dyfodol.
Cynefin Brodorol → |
Rhan Ddeheuol De America (Patagonia, yr Ariannin, Bolifia, Chile, Periw) |
Cynefin naturiol → |
Tir prysg agored a glaswelltir |
Deiet → |
Llysysol fel arfer ond gallant fwyta pryfed a madfallod bychain |
Disgwyliad Oes → |
Yn y gwyllt: Anhysbys. Mewn sw: 20-25 mlynedd |
Bridio → |
10 - 55 o wyau. Cyfnod Deor: 30 - 40 diwrnod |
Enw'r grwp → |
Haid |
Oriau gweithredol → |
Yn ystod y dydd |
Bygythiadau → |
Colli cynefin, Casglu wyau, Hela |
Mae eich rhoddion hael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol
Rhoi Nawr →Anifeiliaid Cysylltiedig
Edrychwch ar rai o’r anifeiliaid rhyfeddol eraill yn y sŵ sy’n perthyn i’r grŵp anifeiliaid hwn.