Welsh Mountain Zoo | Y Bele

Y Bele

Martes martes


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Ar un adeg roedd y Bele yn un o’r rhywogaethau mwyaf cyffredin ym Mhrydain, ond mae eu niferoedd wedi lleihau'n sylweddol ac erbyn dechrau'r 1900 dim ond mewn ychydig o ardaloedd anghysbell ledled y DU y gellid dod o hyd iddynt. Yn dilyn ymdrechion cadwraethol, mae'r niferoedd yn cynyddu a phoblogaethau'n tyfu mewn ardaloedd penodol o'r DU gan gynnwys yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn ogystal ag yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Cynefin Brodorol →

Ym mhob rhan o Ewrop ac ardal Môr y Canoldir

Cynefin naturiol  →

Coetiroedd collddail a chonifferaidd

Deiet  →

Hollysol: Llygod pengrwn, llygod, gwiwerod, wyau, amffibiaid, aeron, ffrwythau a phryfed

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt : 8 - 10 mlynedd. Mewn sŵau: Hyd at 18 mlynedd

Bridio  →

Cyfnod cario: 8 mis. 2 - 5 mewn torllwyth

Enw'r grwp  →

Anhysbys

Oriau gweithredol  →

Yn y cyfnos a chyda’r nos

Bygythiadau  →

Colli Cynefin, Hela

Ffaith Ddifyr

Mae gan y Bele ewinedd y gall eu tynnu yn ôl yn rhannol sy’n caniatáu iddo ddringo coed a rhedeg ar hyd canghennau.

Gwefan gan FutureStudios