Welsh Mountain Zoo | Y Gala

Y Gala

Eolophus roseicapilla


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Mae’r Gala sydd i’w gael yn Awstralia yn unigryw o ran golwg a chanddo farciau â blaen pinc ar hyd ei wddf, ei gorun ac o dan ei gynffon. Pan fyddant yn hedfan mae’r Galaod yn egnïol ac acrobatig, ac yn saethu’n swnllyd drwy’r awyr, ond oherwydd y gwres tanbaid, maen nhw’n treulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn cysgodi ymysg y dail a’r coed.

Cynefin Brodorol →

Y rhan fwyaf o Awstralia gan gynnwys Tasmania

Cynefin naturiol  →

Coetir, tir prysg a glaswelltir

Deiet  →

Hollysol: Hadau, aeron a larfâu pryfed yn bennaf

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: Anhysbys. Mewn sw: hyd at 40 mlynedd

Bridio  →

2 - 6 o wyau. Cyfnod Deor: 22 - 26 diwrnod

Enw'r grwp  →

Pandemoniwm

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Colli cynefin

Ffaith Ddifyr

Yn Awstralia mae’r gair 'galah' wedi dod i olygu ‘hurtyn’ neu ‘ffŵl’, a hynny o bosibl oherwydd campau chwareus yr aderyn hwn.

Gwefan gan FutureStudios