Welsh Mountain Zoo | Ffesant Kalij

Ffesant Kalij

Lophura leucomelanos


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Ceir Ffesant Kalij ar odreon yr Himalaia, o Bacistan hyd at Wlad Thai, ac mae’n tyfu i 73 cm o faint ac mae lled ei adenydd oddeutu 50 cm. Mae'r ceiliog a’r iâr yn amrywio'n sylweddol o ran golwg. Mae gan y ceiliog blu tywyll a chrychni gwyn ar ei gefn a lliw coch llachar o amgylch ei lygaid tra bo’r iâr, o’i chymharu ag ef, yn eithaf plaen.

Cynefin Brodorol →

Bangladesh, Bwtan, Tsieina, India, Myanmar, Nepal, Pacistan a Gwlad Thai

Cynefin naturiol  →

Tiroedd prysg a choedwigoedd

Deiet  →

Hollysol: hadau, planhigion, ffrwythau, pryfed, pryfed genwair, mân anifeiliaid

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: 10 - 15 mlynedd. Mewn sw: hyd at 15 mlynedd

Bridio  →

6-9 o wyau. Cyfnod deor: 25 diwrnod

Enw'r grwp  →

Haid, nythaid neu nythlwyth

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Hela, Colli cynefin

Ffaith Ddifyr

Mae gan grŵp o Ffesantod Kalij sawl enw torfol yn Saesneg, gan gynnwys "bouquet", "brace", "plume", "plump" a "trip" o ffesantod.

Gwefan gan FutureStudios