Welsh Mountain Zoo | Gibon Lar

Gibon Lar

Hylobates lar


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Mae Giboniaid Lar yn perthyn i deulu'r primatiaid ac i’w cael yn fforestydd glaw trofannol De-ddwyrain Asia. Maen nhw’n byw mewn grwpiau teuluol bychain ac fel arfer maen nhw wedi’u gorchuddio â ffwr melyn neu frown tywyll gyda dwylo gwyn, ac mae ganddynt gylch o flew gwyn o amgylch eu hwyneb. Mae'r rhywogaeth hon wedi'i rhestru fel un sydd ‘mewn perygl' ar Restr Goch yr IUCN, ac mae'r fasnach anifeiliaid anwes anghyfreithlon yn Ne-ddwyrain Asia yn cael effaith andwyol ar eu niferoedd yn y gwyllt.

Cynefin Brodorol →

Rhan Ddeheuol De Ddwyrain Asia

Cynefin naturiol  →

Coedwigoedd trofannol

Deiet  →

Hollysol: dail a llystyfiant, fertebratau bychain ac adar

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: 25 mlynedd. Mewn sw:30-40 mlynedd

Bridio  →

Cyfnod cario: 7 - 8 mis. 1 epil yn cael ei eni

Enw'r grwp  →

Teulu

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Colli cynefin, Masnach anifeiliaid anwes anghyfreithlon

Ffaith Ddifyr

Gall Giboniaid Lar groesi bwlch cyn belled â 50 troedfedd ar gyflymder o 35 milltir yr awr. Golyga hyn mai hwy yw’r mamaliaid coedwigol cyflymaf nad ydynt yn hedfan.

Mae eich rhoddion hael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol

Rhoi Nawr →

 Anifeiliaid Cysylltiedig

Edrychwch ar rai o’r anifeiliaid rhyfeddol eraill yn y sŵ sy’n perthyn i’r grŵp anifeiliaid hwn.

Gwefan gan FutureStudios