Welsh Mountain Zoo | Mamaliaid eraill

Mamaliaid eraill

Mae gennym famaliaid gwaed cynnes o bob llun a lliw, ac mae pob un bron wedi ei orchuddio â blew.

Mae mwy na 5,000 o wahanol rywogaethau o famaliaid ar y ddaear, a’r rhan fwyaf ohonynt yn byw ar dir sych, ond mae rhai, fel Morloi Clustiog Califfornia yn byw ac yn ffynnu mewn dŵr yn ogystal ag ar y tir. Mae'r rhan fwyaf o famaliaid yn maethu eu hepil gyda llaeth ac fel pobl, mae angen rhywfaint o ofal rhieni arnynt i oroesi.

Mae ffaldiau ein mamaliaid amrywiol yn adlewyrchu’r tirweddau lle maen nhw’n crwydro, megis gwastadeddau bryniog yr Arth Frown Ewropeaidd ac isdyfiant trwchus y Lemwr Talcen Coch. Mae’r Agwti Azara bychan a’r Camel Dau Grŵp anferth, y Panda Coch annwyl a’r Meerkats drygionus, i gyd yn byw yma yn y Sŵ Fynydd Gymreig.


Gwefan gan FutureStudios