Mae’r holl fwncïod ac epaod yn cael eu dosbarthu fel primatiaid – a ninnau hefyd! Primatiaid yw ein perthnasau agosaf ym myd yr anifeiliaid ac mae'n hawdd sylwi ar y tebygrwydd.
Mae’r primatiaid yn greaduriaid rhyfeddol, difyr, diddorol ac atyniadol a’r rhan fwyaf ohonynt yn 'goedwigol' sy'n golygu eu bod yn byw mewn coed tra bo eraill yn greaduriaid ‘daeardrig’, y mae’n well ganddynt fyw ar y tir. Mae primatiaid yn ddyfeisgar ac yn ddeallus a chanddynt ymennydd mawr. Mae ganddynt goesau a breichiau cryfion gyda bysedd a bysedd traed hir sy’n ddelfrydol ar gyfer arddangos eu sgiliau dringo coed anhygoel. Mae’r primatiaid yn grŵp cymdeithasol iawn yn union fel pobl.
Yma yn y Sŵ rydym yn lwcus ein bod yn rhannu ein cartref â 'chymuned' fawr o brimatiaid sy’n cynnwys Tsimpansïaid, Mwncïod Heglog, Giboniaid Lar, Tamariniaid Penwyn a Mwncïod Goeldi.