Welsh Mountain Zoo | Panda Coch

Panda Coch

Ailurus fulgens


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Mae’r Panda Coch yn cael ei restru fel rhywogaeth 'mewn perygl ' gan fod llai na 10,000 ar ôl yn y gwyllt. Dim ond mymryn yn fwy na chath ddof yw’r Panda Coch, ac maen nhw i’w cael yn Tsieina a’r Himalaia lle maen nhw’n ffynnu yn uchel yng nghanopi’r coed ac yn defnyddio eu haelodau deheuig a’u sgiliau acrobatig medrus wrth symud. Mae’n greadur sy’n byw ar ei ben ei hun, ac mae’n fwyaf egnïol yn ystod y nos.

Cynefin Brodorol →

O ogledd-ddwyrain India i Tsieina, ar hyd yr Himalaia

Cynefin naturiol  →

Coedwigoedd ar uchder o 2,200 i 4,800m, gyda haen o goed bambŵ oddi tanynt

Deiet  →

Llysysol: bambŵ, ffrwythau, madarch, dail, gweiriau, gwreiddiau, cennau a mes

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: 8 – 10 mlynedd. Mewn sŵau: Hyd at 14 mlynedd

Bridio  →

1 - 4 epil. Cyfnod cario: tua 134 diwrnod

Enw'r grwp  →

Anhysbys

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y nos, cyfnos a chyda’r wawr

Bygythiadau  →

Colli cynefin, Masnach anghyfreithlon, Hela

Ffaith Ddifyr

Mae gan y Panda Coch fawd ffug, sydd wedi datblygu dros amser i’w helpu i ddringo coed a bwyta bambŵ.

Gwefan gan FutureStudios