Welsh Mountain Zoo | Ymlusgiaid ac Amffibiaid

Ymlusgiaid ac Amffibiaid

Mae ein casgliad hynod a rhyfeddol o ymlusgiaid ac amffibiaid yn cynnwys rhai o'r rhywogaethau mwyaf diddorol ar y ddaear.

Esblygodd ymlusgiaid ac amffibiaid dros gannoedd o filiynau o flynyddoedd cyn bod yr aderyn cyntaf a allai hedfan a hyd yn oed cyn y deinosor. Yn anffodus mae llawer o rywogaethau o amffibiaid ac ymlusgiad bellach wedi diflannu, ac mae llawer mwy ohonynt mewn perygl.

Mae'r ddau grŵp hyn o anifeiliaid yn hynod ddiddorol a difyr, ac mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn gartref i nifer ohonynt, o Grwban Cloriog y Dwyrain sy’n fychan iawn hyd at Aligator Mississippi a Pheithon llyfn Byrma - sy’n anferth. Mae'r tymheredd yn cael ei reoli'n ofalus yn ffaldiau’r ymlusgiad a’r amffibiaid, er mwyn adlewyrchu eu gofod, eu helfennau a'u hamodau naturiol.


Gwefan gan FutureStudios