Welsh Mountain Zoo | Llewpard yr Eira

Llewpard yr Eira

Panthera uncia


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Amcangyfrifir bod rhwng 3,500 a 7,000 o Lewpardiaid yr Eira ar ôl yn y gwyllt, ac felly yn ôl IUCN mae eu statws cadwraethol bellach yn cael ei ystyried fel un 'dan fygythiad' yn hytrach na 'mewn perygl ' yn dilyn ymdrech gadwraethol fyd-eang. Fodd bynnag, cydnabyddir o hyd bod y niferoedd yn dirywio. Mae'r creaduriaid rhyfeddol hyn yn prowla ar diroedd uchel iawn sy’n amrywio o 3,000 i 5,000 medr ar diroedd garw Canolbarth Asia.

Cynefin Brodorol →

Mynyddoedd yr Himalaia, canolbarth Asia a llwyfandir Tibet yn Tsieina

Cynefin naturiol  →

Ardaloedd mynyddig

Deiet  →

Cigysol: yn bennaf defaid glas ac Ibecs Siberia

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: 15 mlynedd. Mewn sw: hyd at 20 mlynedd

Bridio  →

Cyfnod cario: 3 - 3.5 mis. Rhwng 1 a 5 o genawon (fel arfer rhwng 1 a 3)

Enw'r grwp  →

Anhysbys

Oriau gweithredol  →

Gyda’r nos a chyda’r wawr

Bygythiadau  →

Hela/Herwhela, Colli cynefin, Gostyngiad yn nifer yr ysglyfaeth

Ffaith Ddifyr

Mae eu cynffonnau trwchus, enfawr sy'n eu gwarchod rhag y tywydd garw ac yn helpu i gadw cydbwysedd, bron mor hir â'u corff cyfan.

Mae eich rhoddion hael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol

Rhoi Nawr →

 Anifeiliaid Cysylltiedig

Edrychwch ar rai o’r anifeiliaid rhyfeddol eraill yn y sŵ sy’n perthyn i’r grŵp anifeiliaid hwn.

Gwefan gan FutureStudios