Welsh Mountain Zoo | Margai

Margai

Leopardus wiedii


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Mae’r Margai sy’n dod o Dde America yn cael ei hystyried yn un o aelodau mwyaf dirgel teulu'r cathod. Mae’n debyg o ran maint i gath fach ddof, ac mae côt y Margai yn frown ac yn felyn gyda smotiau tywyll a streipiau ar hyd ei chorff i gyd. Mae’n rhywogaeth a warchodir yn llawn yn dilyn cyfnod o hela a cham-fanteisio difrifol, mae'r IUCN yn rhestru'r rhywogaeth fel un sydd 'dan beth bygythiad '.

Cynefin Brodorol →

De America a Mecsico

Cynefin naturiol  →

Ardaloedd o goedwigoedd

Deiet  →

Cigysol

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: Anhysbys. Mewn sw: hyd at 20 mlynedd

Bridio  →

Cyfnod cario: 76 - 84 diwrnod. 1 - 2 epil

Enw'r grwp  →

Anhysbys

Oriau gweithredol  →

Nos, cyfnos a chyda’r wawr

Bygythiadau  →

Colli cynefin, Hela

Ffaith Ddifyr

Yn wahanol i gathod eraill, mae'r Margai yn gallu dringo i lawr o goed, gyda'i phen o flaen ei thraed (fel gwiwer). Mae hyn yn bosibl gan fod ganddi figyrnau hyblyg sy’n gallu cylchdroi drwy 180 gradd.

Mae eich rhoddion hael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol

Rhoi Nawr →

 Anifeiliaid Cysylltiedig

Edrychwch ar rai o’r anifeiliaid rhyfeddol eraill yn y sŵ sy’n perthyn i’r grŵp anifeiliaid hwn.

Gwefan gan FutureStudios