Welsh Mountain Zoo | Drudwen Loyw Wych

Drudwen Loyw Wych

Lamprotornis superbus


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Mae'r ddrudwen amlwg a llachar hon wedi ei haddurno â lliwiau glas metalig ar draws ei hadenydd, ei chefn a’i bron. Mae’n aderyn cwbl unigryw sydd fwyaf cartrefol mewn coetiroedd a thir amaethyddol. Yn wahanol i lawer o rywogaethau sy’n perthyn i deulu’r adar, mae’r ceiliog a’r iâr yn gyfrifol am fagu a gofalu am y cywion.

Cynefin Brodorol →

Dwyrain Affrica: Ethiopia, Cenia, Somalia, Y Swdan ac Wganda

Cynefin naturiol  →

Safana, gwelltir, coedwig a thir prysg

Deiet  →

Hollysol: aeron, hadau a phryfed

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: tua 3 mlynedd. Mewn sw: Anhysbys

Bridio  →

4 wy. Cyfnod deor: tua 14 diwrnod

Enw'r grwp  →

Grŵp

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Dim bygythiadau mawr

Ffaith Ddifyr

Hoff safle nythu’r Ddrudwen Loyw Wych yw mewn coed Acasia wedi'u hamddiffyn gan y rhywogaeth fwyaf ymosodol o forgrug, a hynny yn ôl pob tebyg, gan fod y morgrug yn helpu i ddiogelu'r nyth rhag ysglyfaethwyr.

Gwefan gan FutureStudios