Welsh Mountain Zoo | Eryr Môr

Eryr Môr

Haliaeetus albicilla


  • Not Evaluated
  • Data Deficient
  • Least Concern
  • Near Threatened
  • Vulnerable
  • Endangered
  • Critically Endangered
  • Extinct in the Wild
  • Extinct

Yr Eryr Môr yw aderyn ysglyfaethus mwyaf y DU, ac o ran ymddangosiad mae bron i gyd yn frown a chanddo adenydd cryfion llydan. Yn anffodus, diflannodd y rhywogaeth yn y DU ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ac eto mae'r boblogaeth bresennol yn ailsefydlu yn dilyn rhaglen ailgyflwyno lwyddiannus.

Cynefin Brodorol →

De-orllewin yr Ynys Las, Sgandinafia ac ar draws Rwsia a gogledd Asia. Cyflwynwyd i’r DU

Cynefin naturiol  →

Eangderau agored o lynnoedd, arfordiroedd neu ddyffryn afon

Deiet  →

Pysgod, adar a mamaliaid

Disgwyliad Oes  →

Yn y gwyllt: 20-25 mlynedd. Mewn sŵau: hyd at 42 mlynedd

Bridio  →

1 - 4 o wyau. Cyfnod Deor: 34 - 46 Diwrnod

Enw'r grwp  →

Haid, cynulliad neu nythaid

Oriau gweithredol  →

Yn ystod y dydd

Bygythiadau  →

Colli cynefin, Gwenwyno (e.e. plaladdwyr), Gwrthdrawiadau â thyrbinau gwynt, Erledigaeth

Ffaith Ddifyr

Yr Eryr Môr yw’r aderyn ysglyfaethus mwyaf ym Mhrydain.

Gwefan gan FutureStudios