Welsh Mountain Zoo | Mabwysiadu Anifail

Mabwysiadu Anifail

Ydych chi’n chwilio am anrheg wych a chwbl unigryw i rywun sy’n caru anifeiliaid? Dyma fo i chi! Bod yn un o Rieni’r Sŵ


Mae ein pecynnau mabwysiadu rhagorol yn ein helpu i barhau i wneud gwaith cadwraethol hanfodol a gofalu am ein hanifeiliaid.

Wyddech chi fod ein hanifeiliaid yn bwyta’r canlynol bob blwyddyn:

  • 14.8 tunnell o bysgod
  • 8.5 tunnell o gig
  • 1,309,105 o gynrhon y blawd
  • 36,135 banana
  • 16,060 o orennau
  • 12,045 o foron
  • 9,875 tatws wedi’u berwi
  • 19,270 o afalau

Mae'r gost o gartrefu, gofalu a darparu ar gyfer ein hanifeiliaid yn cynyddu'n fuan iawn. Mae mabwysiadu anifail, a'ch cefnogaeth barhaus, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n Sŵ!

Mae'r cynllun yn agored i unrhyw un ac mae pob mabwysiad yn para am 12 mis a gellir trefnu unrhyw adeg. Mae'r ffioedd mabwysiadu yn seiliedig ar y gost o fwydo a chadw anifail penodol am flwyddyn. Gallwch fabwysiadu anifail yn gyfan gwbl, drwy dalu'r ffi fabwysiadu lawn, neu rannu'r mabwysiad ag eraill. Gellir mabwysiadu pob anifail yn rhannol drwy brynu un neu fwy o unedau am £50 yr un. Mae prisiau mabwysiadu anifeiliaid yn llawn yn amrywio. Gellir mabwysiadu pob un o anifeiliaid y Sŵ Fynydd Gymreig ac mae ar bob un ohonynt angen 'Rhieni Sŵ'.

Beth ydych chi’n ei gael drwy Fabwysiadu

  • Llythyr croeso
  • Tystysgrif fabwysiadu
  • Llun o’r Anifail
  • Dau docyn mynediad di-dâl am bob cyfran yn y mabwysiadu
  • Eich enw ar blac arbennig ar ffald yr anifail
  • Cyfle i gael sgwrs â chiper am yr anifail ydych chi wedi ei fabwysiadu (angen archebu ymlaen llaw)
  • Ymwybyddiaeth eich bod yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi bywyd gwyllt a chadwraeth
  • Ac yn ychwanegol at hyn oll rydych yn ennill aelod newydd o’r teulu ac yn gwneud ffrind newydd!

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i marketing@welshmountainzoo.org

Fel arall, gallwch fabwysiadu ar-lein. Mae’n ddigon syml – chwiliwch yn ein hadran Anifeiliaid, ac os yw anifail ar gael i'w fabwysiadu, byddwch yn gweld y botwm 'Mabwysiadu'r Anifail hwn' o dan fanylion yr anifail. Cliciwch arno a thalu'n ddiogel drwy ddefnyddio PayPal.

*Please note that during busy periods, Animal Adoptions can take up to 7 working days to be processed, therefore we ask you to bear with us.

The last dates for posting Animal Adoption in time for Christmas will be Wednesday 18th December 2019.

Gwefan gan FutureStudios