Welsh Mountain Zoo | Rhaglenni Bridio

Rhaglenni Bridio

Ers dechrau'r 1970au, mae’r Sŵ Fynydd Gymreig, drwy ymateb i anghenion cadwraeth bywyd gwyllt, wedi bod yn ailasesu natur ei chasgliad o anifeiliaid. Mae hyn wedi caniatáu i'r Sŵ ymuno â rhai o'r rhaglenni bridio cydweithredol rhwng Sŵau sy’n gofalu am amrywiaeth eang o rywogaethau fel y Panda Coch a Llewpard yr Eira.

Dyma rai rhywogaethau eraill sy’n cael eu rheoli ar y cyd:

  • Ceffyl Gwyllt Przewalski
  • Condor yr Andes
  • Tsimpansî
  • Gibon Lar
  • Tamarin Penwyn
  • Pengwin Humboldt
  • Morlo Clustiog Califfornia
  • Lemwr Cynffon Fodrwyog
  • Margai
  • Llewpard yr Eira
  • Teigr Swmatra
  • Panda Coch
  • Mwnci Heglog du Wynepgoch
  • Mwnci Goeldi
  • Dygrgi Ewinedd Byrion Asiaidd
  • Agwti Azara
  • Arth Frown Ewrasiaidd
  • Walabi’r Gors
  • Y Rhea Lleiaf
  • Hefyd, y rhywogaeth Brydeinig frodorol
  • Y Wiwer Goch
  • Y Bele
  • Eryr Môr

Mae mwy a mwy o'r rhaglenni bridio hyn yn cael eu cychwyn a'u harwain gan ‘Grŵp Arbenigol Bridio’ sy’n perthyn i Gomisiwn Goroesiad Rhywogaethau Undeb Cadwraeth y Byd.

Cofnodion Anifeiliaid

Un o'r elfennau pwysicaf yn y rhaglenni bridio cydgysylltiedig yw cadw cofnodion. Yn y Sŵ Fynydd Gymreig, cedwir cofnodion ar y System Rheoli Gwybodaeth Sŵolegol neu'r ZIMS fel y’i gelwir ac mae'r holl ddata yn cael ei anfon i'w chronfa ddata ryngwladol ym Minnesota.

Mae'r systemau cynyddol soffistigedig hyn o gadw cofnodion yn hanfodol ar gyfer llwyddiant rhaglenni bridio cydgysylltiedig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn ogystal, maent yn cael eu defnyddio hefyd ar gyfer datblygiadau mewn hwsmonaeth a gofal milfeddygol ynghyd â rheoli geneteg.

Gwefan gan FutureStudios