Welsh Mountain Zoo | Prosiectau Cadwraethol

Prosiectau Cadwraethol

Dylid ystyried yr anifeiliaid yn y Sŵ Fynydd Gymreig fel rhan yn unig o niferoedd llawer mwy a gedwir mewn Sŵau drwy’r byd i gyd.


Mae’r poblogaethau hyn yn rhan o bolisi yswiriant cadwraeth, petai cyfleoedd ailgyflwyno yn dod i’r amlwg, ac er mwyn cynnal poblogaeth mewn cadwraeth sy’n amrywiol o safbwynt geneteg.

Nid yw ymrwymiad y Sŵ Fynydd Gymreig i warchod rhywogaethau wedi'i gyfyngu i fridio mewn caethiwed. Mae'r Sŵ yn cymryd rhan weithredol wrth ddilyn polisi o roi cymorth, os yw’n bosibl, i brosiectau sy'n ceisio arbed cynefinoedd naturiol. Er enghraifft, mae'r Sŵ wedi rhoi cymorth ariannol ar gyfer cadwraeth Lemyriaid ym Madagascar, tra bo un o aelodau ein tîm yn Gydgysylltydd Rhywogaethau cyfredol Rhaglen Fridio Gwiwerod Coch Ynysoedd Prydain, a hefyd mae’r Sŵ yn cynorthwyo Rhwydwaith y Panda Coch, Cynghrair Cathod Gwyllt ac Ymddiriedolaeth Llewpard yr Eira.

Here be Dragons

Mae'r cynllun Tiriogaeth y Dreigiau gwerth £6miliwn yn cynrychioli datblygiad o'r radd flaenaf sy'n defnyddio apêl uniongyrchol bywyd gwyllt y fforest law o dan gromen fawr drofannol i ddenu a dal sylw yr ymwelwyr. Bydd y cyfleuster yn arwain ymwelwyr drwy stori sy'n amlygu rhyfeddodau'r trofannau, ynghyd â rhyfeddodau Cymru, gan drochi ymwelwyr ym myd ymchwil gwyddonol a derbyn gwybodaeth.

Mae’r cynllun hwn sy’n cael ystyried fel ‘Tŷ Trofannol' Sŵ Genedlaethol Cymru, o fewn waliau’r ardd furiog gyfredol, a ddyluniwyd ar ddechrau'r 20fed ganrif gan y pensaer tirluniol adnabyddus Thomas Mawson. Mae'r mewnosodiad newydd yn parchu'r nodweddion sy'n weddill o'r cyfansoddiad gwreiddiol ac ar yr un pryd yn dod ag adeilad cynaliadwy a modern i'r Sŵ.

North Wales Seal Rescue Centre

Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig erbyn hyn yn cael ei chysylltu â’r gwaith o achub, gofalu am, adfer a rhyddhau morloi llwyd a morloi cyffredin sy’n cael eu canfod o amgylch Môr Iwerddon. Daw’r rhan fwyaf ohonynt o Ogledd Cymru ond weithiau maent yn dod mor bell â Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw, ac wedi cael eu cludo i’r lan gan foroedd garw a’r morloi bach yn aml wedi’u gwahanu oddi wrth eu mamau.

Mae’r record ragorol sydd gan y Sŵ am ofalu am forloi yn dyddio’n ôl i’r 60au cynnar. Daeth y gwaith hwn yn rhywbeth ffurfiol yn 1997 pan adeiladwyd Canolfan Achub Morloi Gogledd Cymru yn y Sŵ. Cafodd y cyfleuster hwn, a adeiladwyd yn arbennig i’r pwrpas yn cynnwys unedau gofal dwys a dau bwll adsefydlu, ei ariannu gan fudiad er lles anifeiliaid a chan roddion y cyhoedd.

Mae hyn wedi bod yn enghraifft ardderchog o bartneriaeth gydweithredol; sefydliadau gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd er budd yr anifeiliaid.

Red Squirrels Trust Wales

Hwn yw ein prosiect cadwraethol hwyaf, a ddechreuodd yn 1989, ac sy’n canolbwyntio ar gadwraeth Gwiwerod Coch yn Ynysoedd Prydain.

Mae’r prosiect yn cynnwys bridio mewn caethiwed yn y Sŵ, cydgysylltu rhaglen fridio gydweithredol ledled y DU, ymchwilio i ddulliau o ailgyflwyno gwiwerod coch i’r gwyllt ac, yn ddiweddar, ymchwilio i effaith afiechyd firws ar gadwraeth y gwiwerod.

Roedd yr ymchwil ar ailgyflwyno a wnaed yn y Sŵ yn rhan allweddol o’r gwaith o ailgyflwyno Gwiwerod Coch yn llwyddiannus ar Ynys Môn ar y cyd â phartneriaid cadwraethol eraill. Mae angen arian ar bob agwedd o brosiect Gwiwerod Coch y Sŵ er mwyn helpu i achub y rhywogaeth Brydeinig gwbl eiconig hon.

Madagasikara Voakajy

Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn cefnogi prosiect cadwraeth maes yn ardal Coedwig Mangabe ym Madagasgar o’r enw ‘Madagasikara Voakajy’, sy’n canolbwyntio ar gadwraeth fertebratau brodorol a’u cynefinoedd ym Madagascar.

Bydd y prosiect cadwraethol hwn sy’n codi arian, yn derbyn arian cyfatebol gan elusen amgylcheddol ‘Maint Cymru’. Bwriad yr elusen hon yw diogelu ardal o fforest law drofannol o’r un maint â Chymru.

Snow Leopard Trust

Mae Ymddiriedolaeth Llewpardiaid yr Eira yn gweithredu yn Tsieina, India, Kyrgyzstan, Mongolia a Phacistan lle mae 75% o boblogaeth y byd o Lewpardiaid yr Eira yn byw.

Mae'r sefydliad wedi llunio cynghreiriau a phartneriaethau â chyrff perthnasol ym mhob un o'r pum gwlad hyn er mwyn cynnal gwaith ymchwil hanfodol sy’n gysylltiedig â’r rhywogaeth, drwy gyflwyno rhaglenni cadwraethol sy’n cael eu harwain gan gymunedau a thrafod penderfyniadau polisi gydag awdurdodau lleol.

Mae Llewpardiaid yr Eira o dan fygythiad gan bobl leol, sy'n ofni y byddant yn ymosod ar dda byw ac maent yn talu’n ôl drwy eu lladd neu eu hela, ac mae hyn yn fygythiad sylweddol i nifer yr anifeiliaid sy'n byw yn y gwyllt. Mae Ymddiriedolaeth Llewpardiaid yr Eira yn chwilio am ffyrdd o gydweithio gyda chymunedau lleol, gan hyrwyddo cynefin cyffredin a chanfod ffyrdd y gall llewpardiaid a dynion fyw ochr yn ochr.

Wildcats Conservations Alliance

Mae Cynghrair Gadwraethol Cathod Gwyllt (Wildcats Conservation Alliance) yn bartneriaeth rhwng Cymdeithas Sŵolegol Llundain a Sefydliad Bywyd Gwyllt Dreamworld ac yn sefydliad rhyngwladol a'i nod cyffredinol yw cadw Teigrod gwyllt a Llewpardiaid Amur, a chefnogi ac ariannu prosiectau cadwraethol a ddewiswyd yn ofalus.

Mae ffigurau cyfrifiad cyfredol yn awgrymu bod tua 100 Llewpard Amur yn y gwyllt a dim ond 4000 o Deigrod gwyllt a hynny ar ôl blynyddoedd o ddirywiad. Mae'r ddau ffigur hyn wedi sefydlogi yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn ymdrechion cadwraethol parhaus, fodd bynnag, mae llawer o waith i'w wneud eto.

Cydnabyddir mai sŵau yw’r ffynhonnell bwysicaf sy’n rhoi cymorth i Gynghrair Gadwraethol Cathod Gwyllt ac maen nhw wedi cyfrannu mwy na £ 2.7m at gadwraeth Teigrod a Llewpardiaid Amur ers 1997 (drwy ymgorfforiadau blaenorol).

Red Panda Network

Mae Rhwydwaith y Panda Coch wedi ymrwymo i gadwraeth Pandas Coch gwyllt a’u cynefin drwy addysgu a grymuso cymunedau lleol. Mae cyn lleied â 2500 Panda Coch yn byw yn y gwyllt heddiw.

Gweledigaeth y sefydliad yw sicrhau goroesiad y Panda Coch yn y gwyllt a diogelu eu cynefin drwy weithio gyda chymunedau lleol a'u grymuso drwy ddefnyddio rhaglen ymchwil sy’n seiliedig ar y gymuned, addysg a datblygu cynaliadwy

Mae Rhwydwaith y Panda Coch yn parhau i gyflwyno rhaglenni cadwraethol yn y gwledydd hynny lle mae'r Panda Coch yn byw, sef Nepal, India, Tsieina, Bhutan, a Myanmar. Cafodd ei lansio gyntaf yn Nepal, a’r bwriad yw bod y rhaglenni cadwraethol yn dod yn eiddo i’r ardaloedd lleol ac yn cael eu rheoli ganddynt o fewn pum mlynedd ar ôl iddynt gael eu cyflwyno a bod hyn yn cael ei efelychu yn yr holl wledydd eraill.

Elusennau yr ydym yn eu cefnogi

Prosiectau Cadwraethol
Prosiectau Cadwraethol
Prosiectau Cadwraethol
Prosiectau Cadwraethol
Prosiectau Cadwraethol
Gwefan gan FutureStudios